Mae’r erthygl hon yn ymdrin â chysylltiadau personol a diwydiannol y teulu Crawshay ym Merthyr Tudful â’r teulu Dufaud yn Ffrainc. Trafodir dyddiaduron taith, nodiadau a llythyron Georges Dufaud a’i fab Achille Dufaud wrth iddynt ymweld â Merthyr. Datgelir drwy’r testunau hynny argraffiadau’r Ffrancwyr o Ferthyr a goruchafiaeth ddiwydiannol y dref honno, yn ogystal ag agweddau ymarferol teithio a chyllido yn y cyfnod hwnnw. Ceir awgrym yn ogystal o hyd a lled y trosglwyddo technolegol o Gymru i Ffrainc ar y pryd, a thystiolaeth fod y diwydianwyr yng Nghymru yn gofidio am ysbïo diwydiannol. Yn dilyn priodas Louise Dufaud a George Crawshay, allforiwyd gweithlu a pheiriannau o Gymru (Abaty Nedd) i Ffrainc, a chwaraeodd hyn ran allweddol yn natblygiad gweithfeydd haearn Fourchambault ger Nevers.
Awdur: Heather Williams