Casgliad o adnoddau i gefnogi addysgwyr sy’n dymuno cyflwyno mwy o Gymraeg wrth addysgu'r cwrs Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd yw’r adnodd hwn.
Mae'r casgliad wedi'i greu er mwyn cefnogi addysgwyr wrth iddynt gynllunio a gosod gweithgareddau gwaith dosbarth neu dystiolaeth yn seiliedig ar sgiliau Cymraeg y dysgwyr.
Mae’r casgliad yn cynnwys:
• canllaw er mwyn esbonio sut mae defnyddio’r adnodd.
• dogfennau 'Mapio’r Cyfleoedd i gyflwyno’r Gymraeg' fesul uned craidd.
• cyfres o dasgau sy’n cwrdd â gofynion rhai o feini prawf penodol y cwrs. Maent yn dangos sut mae modd cael pob dysgwr i gyflawni’r un dasg, wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ar lefelau unigol a phriodol.
• posteri dwyieithog gyda thermau allweddol ar gyfer pob uned.
• adnodd sy’n darparu syniadau i ddysgwyr er mwyn ddefnyddio’r Gymraeg ar leoliadau gwaith.
Cyflwyno'r Gymraeg: Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
Dogfennau a dolenni:
Dogfennau Mapio
Mae'r dogfennau yma'n mapio'r cyfleoedd i gyflwyno’r Gymraeg ar y cwrs fesul uned craidd.
Tasgau Enghreifftiol ar gyfer Cwrs Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
Cyfres o dasgau sy'n cwrdd â gofynion rhai o feini prawf penodol y cwrs. Maent yn dangos sut mae modd cael pob dysgwr i gyflawni'r un dasg, wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ar lefelau unigol a phriodol.
Posteri Geirfa
Cyfres o bosteri sy'n cynnwys termau allweddol dwyieithog i gefnogi'r cwrs Lefel 2 Iechyd a Gofal: Craidd.
Adborth
Dim yn gweld beth rydych chi eisiau? Problem gyda'r ffeiliau? Oes gennych awgrym? Anfonwch eich adborth i ni.