Yn yr erthygl hon, cymherir llythyron adnabyddus Kate Roberts a Saunders Lewis â gohebiaeth dau o awduron blaenllaw Ffrainc y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Gustave Flaubert a George Sand, gan ystyried gwerth a phwrpas gohebiaeth i lenorion. Yn ogystal â dyfnhau ein dealltwriaeth o waith Kate Roberts a Saunders Lewis, y mae'r erthygl hefyd yn gosod gohebiaeth Sand a Flaubert mewn cyd-destun gwahanol ac yn ystyried datblygiad gohebiaeth lenyddol ar hyd y blynyddoedd. Deuir i gasgliadau gwreiddiol drwy ddangos bod llythyron llenyddol yn parhau i gyflawni swyddogaeth hollbwysig i awduron yn yr ugeinfed ganrif: cynnig anogaeth a chyngor, cyfle i ddianc rhag eu hamgylchiadau, ac arf hanfodol yn eu brwydr yn erbyn gwagedd cymdeithas fodern. Manon Mathias, '“Meiddio Byw”: Agwedd y llenor at fywyd yng ngohebiaeth George Sand, Gustave Flaubert, Kate Roberts a Saunders Lewis', Gwerddon, 12, Rhagfyr 2012, 79-95.
Manon Mathias, 'Meiddio Byw': Agwedd y llenor at fywyd yng ngohebiaeth George Sand, Gustave Flaubert, Kate Roberts a Saunders Lewis' (2012)
Dogfennau a dolenni:
Adborth
Dim yn gweld beth rydych chi eisiau? Problem gyda'r ffeiliau? Oes gennych awgrym? Anfonwch eich adborth i ni.