Ffilm fer 10 munud sy’n esbonio sut mae newidiadau yng Nghefnfor yr Arctig a’r dirywiad o ran rhew môr yn gallu dylanwadu’n uniongyrchol ar batrymau a systemau’n tywydd ni yma yng Nghymru.
Mae’r ffilm yn dilyn hanes y prif anturiaethwyr at heddiw, at ddiflaniad rhew’r môr ac effaith hynny. Mae’n cyfuno gwaith ffilm o Gefnfor yr Arctig (wedi ei ffilmio gan Wyddonwyr Prifysgol Bangor ar leoliad) gydag arbrofion labordy yn ogystal â chyflwyniadau o flaen y camera.
Mae’r fideo wedi’i anelu at fyfyrwyr Prifysgol yn ogystal â disgyblion ysgol.