Mae 'Datblygu’r Gymraeg' yn y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru yn faes y rhoddir cryn dipyn o bwyslais arno, ac felly mae’r erthygl hon yn rhoi sylw i safbwyntiau ymarferwyr sydd yn siarad Cymraeg fel ail iaith ac sydd yn addysgu’r Gymraeg fel ail iaith yn y Cyfnod Sylfaen. Gwerthusir dyfnder yr heriau y teimlant y maent yn eu hwynebu wrth gyflwyno iaith nad ydynt yn gwbl hyderus ynddi, gan ystyried rhai o’r goblygiadau a amlygir gan eu safbwyntiau. Rhoddir ystyriaeth i hyder ymarferwyr yng nghyd-destun polisi a chwricwlwm Cymru ac amlygir bod yr elfen hon o addysg braidd yn anweledig yng nghyd-destun ystyriaethau datblygu’r Gymraeg, a’i bod yn effeithio ar niferoedd sylweddol o ddisgyblion Cyfnod Sylfaen yng Nghymru. Awgrymir bod yr agwedd hon ar y Cyfnod Sylfaen yn un sydd angen ystyriaeth a sylw buan.
Prysor Mason Davies ac Emily Parry, 'Pan fo addysgwyr yn ddysgwyr – safbwyntiau ar hyder ymarferwyr ail iaith i gefnogi "Datblygu’r Gymraeg" fel ail iaith yn y Cyfnod Sylfaen' (2018)
Dogfennau a dolenni:
Adborth
Dim yn gweld beth rydych chi eisiau? Problem gyda'r ffeiliau? Oes gennych awgrym? Anfonwch eich adborth i ni.