Yn ystod yr amser ansicr hwn gall fod yn dasg a hanner i reoli amser yn effeithiol. Wrth i nifer ohonom addasu i weithio o bell, tra bod eraill yn dysgu addasu i weithio mewn awyrgylch wahanol ar y campws, gall reoli amser fod yn heriol.
Dyma gyfle ymarferol i adolygu eich steil personol yn nhermau sut fyddwch chi'n rheoli eich gwaith, pobl, gweinyddiaeth, cydbwysedd bywyd a gwaith ac ati.
Cynnwys:
Mae gweithio yn rhithiol a rheoli pwysau gwaith amrywiol ynghyd â sialensiau gofal yn y cartref wedi herio y rhan fwyaf ohonom yn ddiweddar. Bydd y gweithdy hwn yn gyfle i feddwl am y pwysau newydd a’r effaith ar ein hamser, a bydd cyfle i ystyried ffyrdd o weithio yn fwy effeithiol yn unigol ac fel tîm.
Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu:
- Adnabod problemau a chynhyrchu rhaglen weithredu.
- Adnabod y ffyrdd amlycaf o wastraffu amser.
- Gweithio yn well trwy gynllunio a blaenoriaethu.
- Gwneud defnydd effeithiol o’r dyddiadur/trefnydd personol.
- Cael gwared â phentwr o waith papur a negeseuon e-bost.
- Gwneud defnydd effeithiol o amser gydag eraill.
Bywgraffiad Mari Ellis Roberts
Mae Mari yn Swyddog Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Bangor ac yn gyfrifol am y ddarpariaeth Datblygu Staff mewnol. Yn ogystal mae hi’n rheoli cynllun Cymhelliant a Mentora'r Brifysgol ac yn rhedeg gweithdai effeithiolrwydd personol megis sgiliau rheoli amser, gosod nodau effeithiol ayb.