Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2013 964

Rhian Meara, 'Pwysigrwydd llofnod cemegol lludw folcanig o Wlad yr Iâ: Teffra 'Grakolla' o losgfynydd Torfajokull' (2013)

Disgrifiad

Mae astudiaethau teffrocronoleg yn rhanbarth Gogledd yr Iwerydd ar y cyfan yn canolbwyntio ar gynhyrchion echdoriadau mawr e.e. Askja 1875, Hekla 1104 ac Öræfajökull 1362. Serch hynny, mae echdoriadau llai o faint o Wlad yr Iâ yn dechrau dod yn fwy pwysig o ran sicrhau dyddiadau mewn meysydd eraill ac mae'n bosibl eu bod yn berthnasol dros bellterau ehangach e.e. echdoriad Eyjafjallajökull yn 2010. Mae teffra Grákolla, sy'n tarddu o losgfynydd Torfajökull yn un enghraifft. Os defnyddir data'r prif elfennau yn unig, mae'r teffra yn dangos ôl bys cemegol yr un fath a theffra Landnám, sy'n tarddu o'r un system. Ond o ddefnyddio data'r elfennau hybrin, mae'n bosibl gwahaniaethu rhwng yr haenau hyn er bod ychydig o orgyffwrdd yn parhau yn y data. Wrth ddefnyddio'r wybodaeth hon i ailystyried astudiaeth flaenorol o fudo ac anheddu yn Ynysoedd Ffaröe, nodir bod perygl camddyddio digwyddiadau os yw'r broses o adnabod teffra yn dibynnu ar ddata'r prif elfennau yn unig. Mae hyd at 600 mlynedd rhwng y ddau deffra, ac er bod hwn yn gyfnod byr iawn o ran digwyddiadau daearegol, y mae'n gyfnod hir o ran camddyddio digwyddiadau dynol. Rhian Meara, 'Pwysigrwydd llofnod cemegol lludw folcanig o Wlad yr Iâ: Teffra “Grákolla” o losgfynydd Torfajökull', Gwerddon, 13, Chwefror 2013, 66-77.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Daearyddiaeth
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân-lun cyfrol gwerddon 13

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.