Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2020 1K

Robert Ieuan Palmer, Kathleen Withers, Amanda Willacott a Grace Carolan-Rees, Gwella gwasanaethau gofal iechyd â chymorth cleifion: Casglu PROMs a PREMs ledled Cymru

Disgrifiad

Golyga pwysau ar Wasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) Cymru fod angen ffyrdd newydd o ddarparu safonau uchel o ofal gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael. Un dull yw gweithio’n agosach â chleifion, gan gasglu Mesurau Canlyniad a Adroddir gan Gleifion (Patient Reported Outcome Measures (PROMs) a Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion (Patient Reported Experience Measures) (PREMs). Gobeithir y bydd casglu data o’r fath yn helpu wrth geisio darparu gofal iechyd darbodus. Rhy’r erthygl hon arolwg o ddatblygu’r system gasglu genedlaethol gyntaf yng Nghymru. Casglodd y system 66,000 PROMs a PREMs gan 25,000 claf dros dair blynedd, a dengys defnydd cynnar o’r data hyn y potensial i wella gwasanaethau. Y bwriad hir-dymor yw gwneud casglu data o’r fath yn rhan reolaidd o ofal iechyd eilaidd yng Nghymru.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Iechyd a Gofal
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân-lun cyfrol gwerddon 30

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.