Recordiadau o ddau sesiwn ar-lein i ddisgyblion sydd yn ystyried astudio'r gyfraith neu droseddeg yn y brifysgol. Mae'n gyfle da i ddarpar-fyfyrwyr gael syniad o'r math o yrfa gall rhywun ddilyn gyda gradd yn y pynciau hynny. Gall hefyd apelio at fyfyrwyr prifysgol sy'n ystyried eu gyrfa a chamau nesaf wedi graddio.
Yn y sesiwn gyntaf mae gennym siaradwyr sydd wedi graddio mewn Cyfraith neu Droseddeg ac sydd nawr yn gweithio yn y maes.
Mae'r ail sesiwn yn cynnwys cyfranwyr sydd wedi graddio mewn Cyfraith neu Droseddeg ond aeth ymlaen i ddilyn gyrfa tu hwnt i'r pynciau hynny.
Sesiynau Holi 'Pa Yrfa?' Gradd Cyfraith neu Droseddeg
Dogfennau a dolenni:
Sesiwn #1: Gweithio ym maes y Gyfraith
Sgwrs gyda phobl sydd wedi graddio mewn Cyfraith ac sydd nawr yn gweithio fel Cyfreithwyr.
Yr Athro Emyr Lewis (Cadeirio) - Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth. Cyn hynny yn bartner yng nghwmni cyfreithiol fawr yng Nghaerdydd
Siriol Jones - gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS)
Elin Gaffey - gweithio i'r Gwasanaeth Prawf
Tomos Lewis - cwmni Blake Morgan, Caerdydd
Summer Allwood - Carchardai a'r Gwasanaeth Prawf
Sesiwn #2: Gradd yn y Gyfraith ond ddim yn Gyfreithwyr
Sgwrs gyda phobl sydd wedi graddio mewn Cyfraith ond nad sydd nawr yn gweithio ym maes y Gyfraith:
Nest Jenkins (Cadeirio) - newyddiadurwraig gydag ITV
Cara Thomas - Gwas Sifil ym maes perthnasau rhynglywodraethol
Lois Nash - myfyriwr PhD yn gwneud doethuriaeth ar Ladd Trugaredd ac Ewthanasia
Tomos Morris - Swyddog Disgyblaeth i Gymdeithas Bêl-droed Cymru
Adborth
Dim yn gweld beth rydych chi eisiau? Problem gyda'r ffeiliau? Oes gennych awgrym? Anfonwch eich adborth i ni.