Mae'r sector ynni adnewyddadwy yn prysur dyfu wrth i wledydd anelu at gyrraedd targedau lleihau allyriadau carbon a sefydlu strategaeth fwy cynaliadwy o greu ynni. Er hyn, dadleuir nad yw datblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yn llwyddo i gyfrannu tuag at gynaliadwyedd cymunedol a'r economi lleol. Yn ôl ymchwil ddiweddar, mae prosiectau ynni cymunedol – prosiectau ynni adnewyddadwy sydd wedi eu perchenogi'n rhannol neu'n llawn gan gymuned ddaearyddol benodol – yn cael eu gweld fel ffordd o gynhyrchu ynni mewn modd mwy derbyniol, teg a chynaliadwy. Mae'r erthygl hon yn adolygu'r llenyddiaeth bresennol sy'n trafod manteision y sector ynni cymunedol a'r hyn sy'n llesteirio datblygiadau yn y maes hwn. Sioned Haf, 'Ynni adnewyddadwy cymunedol: adolygiad o'r sefyllfa bresennol a phosibiliadau'r sector unigryw hwn', Gwerddon, 20, Hydref 2015, 10-29.
Sioned Haf, 'Ynni adnewyddadwy cymunedol: adolygiad o'r sefyllfa bresennol a phosibiliadau'r sector unigryw hwn' (2015)
Dogfennau a dolenni:
Adborth
Dim yn gweld beth rydych chi eisiau? Problem gyda'r ffeiliau? Oes gennych awgrym? Anfonwch eich adborth i ni.