Adnodd fideo newydd sy’n rhoi gwedd gyfoes ar gywydd enwog Dafydd ap Gwilym er mwyn cynorthwyo gydag astudiaethau Safon Uwch Cymraeg Uned 5 (Rhyddiaith yr Oesoedd Canol, Yr Hengerdd a’r Cywyddau).
Canolbwyntir ar 4 rhan o’r testun er mwyn adrodd y stori, gan fanylu ar y cynnwys mewn iaith gyfoes a rhoi sylw penodol i nodweddion arddull a chrefft y bardd.
Sgript wedi ei baratoi gan Dr Eurig Salisbury, darlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth.
Dolen i'r fideo ar YouTube - gllir dewis isdeitlau (Cymraeg) ar y fideo yn YouTube.
Ariannir gan Lywodraeth Cymru.