Bydd y gweithdy hwn o ddefnydd i unrhyw un sydd am gyflwyno gwybodaeth mewn ffyrdd amgen, a rhyngweithiol, boed fel rhan o gyflwyniad ymchwil neu wrth ddarlithio.
Amcanion y gweithdy
- Datblygu dealltwriaeth uwch o feddalwedd adnabyddus
- Gwybod bod mabwysiadu technegau syml yn gallu arwain at gynnyrch o safon uwch, sy’n wahanol i’r arfer
- Llwyddo i gael y meddalwedd i weithio i chi, ac nid eich ‘caethiwo’
Cynnwys
Word:
- Creu tudalen cynnwys rhyngweithiol
- Cyflwyno offer at ddefnydd yr iaith Gymraeg
- Offer perthnasol ar gyfer cymorth cyfeirio
Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu:
- Creu cyflwyniadau rhyngweithiol sy’n edrych ac yn gweithio’n wahanol i’r cyffredin gydag hyder
- Deall technegau estynedig ar gyfer creu projectau, traethodau hir ac adroddiadau effeithiol
- Ystyried clymu elfennau pob project ar ei gilydd mewn portffolio rhyngweithiol, a gwybod sut i wneud hyn.
Cyflwynydd: Dyddgu Hywel
Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf.
Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun.
Mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwch ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn, ac yno ers dros saith mlynedd bellach, gyda’i arbenigedd mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, y defnydd o dechnoleg, ymgysylltiad a iechyd a lles myfyrwyr.