Bwriedir yr hyfforddiant hwn ar gyfer academyddion gyrfa gynnar a myfyrwyr ymchwil. Bydd yr adnodd yn cynnig trosolwg llawn o’r REF (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil) mewn cyd-destun Cymreig.
Cyflwynir yr adnodd gan yr Athro Delyth James.
Cyfeirir yn benodol at REF 2021, a bydd y 6 gweithdy sy’n rhan o’r adnodd yn mynd i’r afael â’r isod:
- Beth yw REF? – Trosolwg
- Pa academyddion a gynhwysir yn y REF?
- Unedau Asesu
- Allbynnau Ymchwil (ansawdd a nifer)
- Achosion Effaith (Impact Cases)
- Datganiad Amgylchedd
- Sut mae REF yn ymwneud â myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr gyrfa cynnar?
- Crynodeb o'r goblygiadau i ymchwilwyr yn y Gymraeg