Ychwanegwyd: 10/06/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 1.6K Cymraeg Yn Unig

Ymwybyddiaeth iaith a dwyieithrwydd mewn addysgu

Disgrifiad

Mae'r adnodd yn cynnwys pedwar cyflwyniad:

Cyflwyniad 1 - Ymwybyddiaeth Iaith yng nghyd-destun Addysg Uwch
Cyflwyniad 2 - Proffilio Grŵp
Cyflwyniad 3 - Dwyieithogi darlith neu seminar
Cyflwyniad 4 - Adnoddau i gefnogi addysgu dwyieithog

Amcanion y gweithdy hwn yw:

  • Cyflwyniad i ymwybyddiaeth iaith mewn addysg yng nghyd-destun addysg uwch.
  • Datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd proffilio myfyrwyr a sut gellir defnyddio’r wybodaeth hyn i gynllunio darlithoedd a seminarau.
  • Cyflwyniad i dechnegau amrywiol ac ymarferol er mwyn dwyieithogi darlith a seminar a chyfoethogi profiad iaith myfyrwyr mewn gwersi Saesneg.
  • Rhannu adnoddau defnyddiol i gefnogi hyfforddeion i fewnosod y Gymraeg o fewn darlithoedd a seminarau.

Cynnwys:

  • Diweddariad o sefyllfa’r Gymraeg o ran polisïau ar lefel cenedlaethol yng nghyd-destun Addysg Uwch.
  • Trosolwg o fanteision proffilio sgiliau iaith myfyrwyr (gallu, defnydd ac agweddau o’r Gymraeg) a sut gall hyfforddeion ddefnyddio’r wybodaeth hyn i gynllunio eu haddysgu a chreu cyfleodd i fyfyrwyr ddefnyddio a datblygu eu Cymraeg.
  • Technegau amrywiol ac ymarferol er mwyn dwyieithogi darlith a seminar.
  • Cyngor ar gynnwys termau allweddol Cymraeg mewn darlithoedd pennaf Saesneg.
  • Trosolwg o adnoddau defnyddiol i gefnogi hyfforddeion i fewnosod y Gymraeg o fewn darlithoedd a seminarau (e.e. Y Termiadur Addysg, Ap Geiriaduron, Cysgliad).

Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu:

  • Dangos dealltwriaeth o ymwybyddiaeth iaith yng nghyd-destun addysg uwch ac effaith hyn ar barodrwydd myfyrwyr i ystyried cwblhau gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd proffilio sgiliau iaith myfyrwyr, magu strategaethau i gasglu gwybodaeth am broffil iaith unigol myfyrwyr a defnyddio’r wybodaeth i gynllunio darlithoedd a seminarau.
  • Defnyddio ystod eang o strategaethau er mwyn dwyieithogi darlithoedd a seminarau.
  • Defnyddio ystod o adnoddau i fewnosod y Gymraeg o fewn darlithoedd a seminarau.

Cyflwynwyr:

Helen Humphreys, Sgiliaith

Yn fentor a hyfforddwr dwyieithrwydd a’r Gymraeg mewn Addysg Bellach a Dysgu yn Seiliedig ar waith, mae fy swydd yn fy ngalluogi i ysbrydoli, rhannu syniadau, adnoddau ac arfer dda o fewn y sectorau yma. Wedi bod yn ddarlithydd gwbl ddwyieithog yng Ngholeg Sir Gâr, cefais gyfrifoldeb ychwanegol o fewn y coleg fel Mentor dysgu Staff yn yr Iaith Gymraeg. Bu’r rôl yma yn gyfle i rannu arferion da gyda staff y coleg, eu monitro a datblygu eu sgiliau o fewn y dosbarth cyn dod yn aelod o staff rhan amser ac yna llawn amser gyda Sgiliaith yn 2017.

Sioned Williams, Sgiliaith

Mae Sioned Williams yn Fentor a Hyfforddwr Datblygiad Proffesiynol i ganolfan Sgiliaith. Ei gwaith craidd yw darparu hyfforddiant staff, cefnogaeth a chyngor, adnoddau a rhannu arfer da o ran dwyieithrwydd a mewnosod y Gymraeg gyda darlithwyr, tiwtoriaid ac aseswyr yn y sector addysg bellach a dysgu yn seiliedig ar waith gyda’r nod o wella sgiliau a phrofiadau dysgwyr ym maes dwyieithrwydd.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Rhaglen Datblygu Staff
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
Ymwybyddiaeth iaith a dwyieithrwydd mewn addysgu

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.