Ychwanegwyd: 30/11/2023 530

Darlith Flynyddol Edward Lhuyd

Disgrifiad

Mae Darlith Edward Lhuyd yn gyflwyniad blynyddol ar wahanol agweddau o fywyd academaidd a chyfoes Cymru a'r byd. Ceir amrywiaeth eang o themâu gan gynnwys daeareg, llenyddiaeth, ecoleg neu hanes. Trefnir y ddarlith rhwng y Coleg a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Noder, ni fu darlithoedd yn 2020 - 2022 oherwydd Covid-19.

Darlith Edward Lhuyd 2013: Ar Drywydd Edward Lhwyd
Adnodd Coleg Cymraeg Darlith
mân-lun darlith edward lhwyd
Dyddiad cyhoeddi: 2013
Adnodd Coleg Cymraeg Darlith
Darlith Edward Lhuyd 2013: Ar Drywydd Edward Lhwyd
913

Darlith Flynyddol Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru 2013 gan yr Athro Brynley F. Roberts. Gallwch weld fideo o'r ddarlith drwy glicio

Darlith Edward Lhuyd 2014: Newid hinsawdd sydyn: datgelu cyfrinachau'r gorffennol
Adnodd Coleg Cymraeg Darlith
man lun darlith edward lhwyd
Dyddiad cyhoeddi: 2014
Adnodd Coleg Cymraeg Darlith
Darlith Edward Lhuyd 2014: Newid hinsawdd sydyn: datgelu cyfrinachau'r gorffennol
739

Yr Athro Siwan Davies yn traddodi Darlith Flynyddol Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.Traddodwyd y ddarlith ym Mhrifysgol Abertawe nos Fercher 12 Tachwedd 2014.

Darlith Edward Lhuyd 2015: Heneiddio a Gofal
Adnodd Coleg Cymraeg Darlith
mân-lun edward lhwyd
Dyddiad cyhoeddi: 2015
Adnodd Coleg Cymraeg Darlith
Darlith Edward Lhuyd 2015: Heneiddio a Gofal
1.2K

Heneiddio a Gofal: Ein Cyfrifoldeb a'n Braint' – Darlith Flynyddol Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru 2015.Traddodwyd gan yr Athro Mari Lloyd-Williams ar nos Fercher 4 Tachwedd 2015 yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Darlith Edward Lhuyd 2017: Ynni, Gwaith a Chymhlethdod
Adnodd Coleg Cymraeg Darlith
man lun darlith edward lhuyd
Dyddiad cyhoeddi: 2017
Adnodd Coleg Cymraeg Darlith
Darlith Edward Lhuyd 2017: Ynni, Gwaith a Chymhlethdod
1K

Ynni, Gwaith a Chymhlethdod: Saith Chwyldro Hanesyddol' - Darlith Flynyddol Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru 2017. Traddodwyd gan yr Athro Emeritws R. Gareth Wyn Jones ar nos Iau 9 Tachwedd 2017 yn Pontio, Bangor. Yn y ddarlith hon, dehonglir hanes bywyd ar ein planed dros 4.5 biliwn blwyddyn ei bodolaeth. Dadleuir bod modd adnabod chwe chwyldro ynni ffurfiannol yn hanes ein planed. Drwy ffrwyno ffynhonnell newydd o ynni, daw'r potensial i wneud gwaith ychwanegol, sy'n arwain at gymhlethdod materol ac at gymhlethdod cymdeithasol cynyddol. Beth yw'r patrymau yn y chwe chwyldro? Beth yw eu goblygiadau ar gyfer y seithfed chwyldro, sydd ar ein gwarthaf ni heddiw?

Darlith Edward Lhuyd 2023:Dr Carol Bell
Adnodd Coleg Cymraeg Darlith
dr carol bell
Dyddiad cyhoeddi: 2023 Cymraeg Yn Unig
Adnodd Coleg Cymraeg Darlith
Darlith Edward Lhuyd 2023:Dr Carol Bell
603 Cymraeg Yn Unig

Teitl y ddarlith: Her pawb i greu dyfodol cynaliadwy: gweld y patrwm a buddsoddi ar gyfer y tymor hir Darlith Flynyddol Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru 2023 gan Dr Carol Bell.  Bu Dr Bell yn gyn Reolwr Gyfarwyddwr y Global Oil & Gas Group yn y Chase Manhattan Bank (1997 i 1999) a, chyn hyn, yn bennaeth adran Ymchwil Ecwiti Ewropeaidd JP Morgan yn Llundain. Enillodd radd MA mewn Gwyddorau Naturiol (Biocemeg) o Brifysgol Caergrawnt, BA mewn Gwyddorau Daear (Daeareg) o'r Brifysgol Agored ac MA a PhD gan Sefydliad Archeoleg Coleg Prifysgol Llundain. Yng Nghymru, mae hi'n aelod o nifer o fyrddau, gan gynnwys, Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi, Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, Sefydliad Cyfarthfa, a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ac mae newydd ymddeol o fyrddau Banc Datblygu Cymru, Amgueddfa Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae hi hefyd ar gyngor Research England, ac ar fyrddau’r National Physical Laboratory a Museum of London Archaeology yn ogystal â thri cwmni cyhoeddus rhyngwladol.

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.