Rhestr o dermau dwyieithog safonol ar gyfer y sector adeiladwaith. Mae'r termau yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n astudio ar gyrsiau lefel 1, 2 a 3 Mae geirfa allweddol ar gyfer y pynciau canlynol ar gael isod: Gosod Brics Gwaith Saer Peintio ac Addurno Plastro Datblygwyd y cynnwys gwreiddiol gan Sgiliaith.
Termau Adeiladwaith
Myfyriwr Adeiladu
Adnodd ar gyfer myfyrwyr adeiladu (Lefel 1 a 2) sy’n canolbwyntio ar gyflwyniad a pherthnasedd sgiliau ymarferol, yn benodol gwaith coed a gwaith saer, plastro, bricwaith a pheintio ac addurno. Mae’n pontio’r agendor rhwng tasgau go iawn a gweithgareddau'r ystafell ddosbarth trwy gyfrwng clipiau fideo byrion o gyfweliadau â gweithwyr ifanc yn y diwydiant adeiladu wrth eu gwaith, a chlipiau byrion o dasgau go iawn yn cael eu cyflawni ar y safle adeiladu. Datblygwyd yr adnodd gan Cwmni Cynnal ar ran Llywodraeth Cymru ac mae'r adnodd hefyd ar gael drwy wefan HWB.
Y Meddwl Modern: Durkheim – Huw Morris Jones
Emile Dukheim oedd y cyntaf erioed i ddal cadair brifysgol mewn cymdeithaseg, a deil ei syniadau'n sylfaenol bwysig i bawb a fyn ddeall gwreiddiau'r pwnc. Mabwysiadodd y ddelwedd o gymdeiths fel organeb, a phob aelod ohoni â'i swyddogaeth neilltuol i'w chyflawni er mwyn sicrhau lles y corff cyfan. Ymhlith ei syniadau y mae ei ddadansoddiad o wreiddiau cymdeithasol crefydd, yn arbennig yr awgrym mai 'addoli'r gymdeithas' a wneir mewn unrhyw addoliad crefyddol; ei bwyslais ar yr hyn a alwai yn 'anomi' fel gwreiddyn anghydfod ac aflonyddwch ym mywyd unigolyn a chymdeithas; a'i astudiaeth wreiddiol a phwysig o hunanladdiad fel ffenomen gymdeithasol. Gwelir ei ddylanwad mewn meysydd mor wahanol â throseddeg ar y naill law a beirniadaeth lenyddol ar y llall.
Gair am Gelf
Mae'r casgliad hwn o ysgrifau gan artistiaid cyfoes sydd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru yn rhoi cip-olwg i ddarpar fyfyrwyr Celf a Dylunio ar y ffordd y bu i rai o'n hartistiaid ddarganfod eu creadigrwydd drwy addysg, a thrwy ymroddiad yn eu gyrfa.
Adnoddau dysgu ac addysgu Cymraeg fel ail iaith (Cynllun Colegau Cymru gynt)
Casgliad o adnoddau hylaw ar gyfer darlithwyr a hyfforddeion i hwyluso dysgu ac addysgu Cymraeg ail iaith ar draws y sector addysg cynradd. Gellir defnyddio'r matiau fel sail i ddarlithoedd, yn ganllaw ymarferol i hyrwyddo iaith achlysurol, ac fel cymorth i sicrhau cywirdeb wrth lunio taflenni, murluniau a modelu ysgrifennu. Nid yw Cynllun Colegau Cymru yn bodoli bellach. Fe’i ddisodlwyd gan y Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg yn 2018. Dyma’r Fframwaith a fabwysiedir i fesur sgiliau iaith holl hyfforddeion ar gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon. Mae’r tasgau a gweithgareddau iaith yn y deunyddiau isod yn parhau yn berthnasol ond nid yw’r cyfeiriadau penodol at y lefelau a’r camau oedd yn perthyn i Gynllun Colegau Cymru.
Fideos ar gyfer darlithoedd Busnes
Dyma gyfres o glipiau fideo byr gyda siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio mewn swyddi perthnasol i fodiwlau busnes mewn Addysg Uwch ac Addysg Bellach. Mae’r unigolion sy’n ymddangos yn y clipiau yn dod o gefndiroedd busnes gwahanol gan gynnwys meysydd adnoddau dynol, marchnata, rheoli a thwristiaeth. Prif bwrpas y clipiau fideo yw i ddarlithwyr fedru eu hymgorffori mewn darlithoedd. Gallant hefyd gael eu defnydd at ddibenion recriwtio. I ddarlithwyr Addysg Bellach, mae’r fideos canlynol yn berthnasol i unedau craidd BTEC Busnes Lefel 3: Unit 1: Exporing Business - fideos 'Sefydlu Busnes' 4, 12, 13, 14, 15, 16, 17 Unit 2: Developing a Marketing Campaign - fideos 'Marchata' 1, 2 Unit 5: International Business - fideo 'Cyllid' 2 Unit 6: Principles of Management - fideos Adnoddau Dynol
Nyrsio: Pecynnau Dysgu Cyfrwng Cymraeg
Pecynnau dysgu i ddatblygu gwybodaeth myfyrwyr yw'r adnoddau hyn, yn seiliedig ar sefyllfaoedd realistig. Mae'r pecynnau'n cyfrannu at fodiwlau penodol yn ysgol Nyrsio, Prifysgol De Cymru, ond gallant hefyd gael eu defnyddio gan fyfyrwyr o brifysgolion eraill sy'n astudio ar unrhyw gangen Nyrsio trwy gyfrwng y Gymraeg. Gallant hefyd fod yn adnoddau a fyddai o ddefnydd i'r sawl sy'n ymddiddori yn y maes. Mae pump pecyn dysgu wedi eu datblygu. Mae'r Rhith Rheolwr Poen yn efelychu peiriant PCA (peiriant sy'n galluogi claf i weinyddu analgesia i'w hun). Pwrpas yr adnodd rhyngweithiol yma yw dysgu myfyrwyr sut i ddefnyddio'r peiriant ac i ystyried y fath o ofal nyrsio y dylid darparu mewn lleoliad ysbyty. Gellir lawrlwytho pedwar pecyn dysgu ychwanegol yn yr adran 'Cyfryngau cysylltiedig' ar ôl dilyn y ddolen isod. Mae'r pecynnau Rheoli Meddyginiaethau a Gofal, Tosturi a Chyfathrebu yn cynorthwyo myfyrwyr nyrsio i ddeall elfennau a rheolau ynghlwm â rhannau yma o rôl y nyrs. Bwriad y pecynnau Rheoli Poen Aciwt ac Oriau Canolbwyntio yw cynnig dull arall o ddysgu i fyfyrwyr nyrsio ynglŷn â gofalu am glaf mewn poen a chlaf sy'n dioddef o ganser.
Fideos Gloywi Iaith
Yma cewch gyflwyniadau gloywi iaith gan rai o diwtoriaid y Dystysgrif Sgiliau Iaith. Mae'r fideos yn esbonio rhai materion a all beri anhawster wrth ysgrifennu’n Gymraeg. Mae'r fideos yn ffocysu ar y canlynol: Arddodiaid Berfau Cyffredin Camgymeriadau Treiglo Cyffredin Cymryd Defnyddio Bo Defnyddio Bod Defnyddio'r Arddodiaid Dyfodol Cryno Berfau Afreolaidd Dyfodol Cryno Berfau Rheolaidd Dyfodol Cryno Rheoliadd y gair BOD Rhagenw Dibynnol Blaen Roeddwn i Rydw i Treiglo ar ôl Rhifau Treiglo Gwrthrych y Ferf Treiglo ar ôl Arddodiaid Y Goddefol Y Treiglad Llaes Yr Amhersonol Rheolaidd Yr Amodol