Cynhadledd ar-lein ac agored i bawb ar opsiynau gyrfa posib ym maes plant a phobl ifainc (heblaw addysgu). Cynhaliwyd y gynhadledd ar ddydd Mercher, 16 Chwefror 2022, drwy gyfrwng y Gymraeg (heb gyfieithu ar y pryd). 1.00: Prif Siaradwr – Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin 2.00: Panel Cyflogadwyedd – Yr Urdd (Aled Pickard), Ysgol Berfformio Academy Arts ac actores (Jalisa Andrews), GISDA (Siân Elen Tomos), Chwarae Cymru (Matthew Jenkins) 2.50: TORIAD 3.00: Mentergarwch – sgwrs gyda Gwenllian Stephens ar sefydlu Meithrinfa Cwtsh yn Sir Gâr 3.30: Panel Cymhwyster Pellach – dysgu am ddilyn cyrsiau eraill ar ôl gadael y coleg, siaradwyr yn sôn am; therapi lleferydd (Catrin Phillips), gwasanaeth prawf (Eirian Evans), gwaith cymdeithasol (Gwenan Prysor, Prifysgol Bangor) ac ymchwil prifysgol (Cadi Siôn, Prifysgol Bangor) 4.15: Trafodaeth agored 4.30: Gorffen Mae modd gwylio recordiadau o'r sesiynau unigol isod:
Cynhadledd Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifainc
Barod ar gyfer Prifysgol
Mae Barod ar gyfer Prifysgol yn hwb sy'n hawdd ei ddefnyddio, p'un a ydych ar fin symud ymlaen i addysg lefel prifysgol, neu'n cefnogi rhywun sy'n gwneud hynny - efallai fel rhiant, athro, gofalwr neu gynghorydd. Gallwch chwilio yn ôl pwnc – fel sgiliau astudio, llesiant ac iechyd meddwl, neu fywyd myfyrwyr – yn ôl sefydliad, ac yn ôl maes pwnc, fel y gallwch fod yn siŵr o fynd yn syth i'r adnoddau sydd eu hangen arnoch.
PAAC - Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymraeg
Pecyn o e-lyfrau a fideos i gefnogi dysgu cymdeithaseg drwy gyfrwng y Gymraeg. Cynulleidfa’r deunyddiau hyn yw disgyblion sy’n astudio Lefel A Cymdeithaseg mewn ysgolion ledled Cymru, a myfyrwyr blwyddyn gyntaf sydd am astudio’r pwnc yn y brifysgol.
Ail gartrefi: Datblygu polisÏau newydd yng Nghymru
Adroddiad Dr Seimon Brooks, Athro Cyswllt yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, ar Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru. Ar ôl i Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe dderbyn grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cafodd Dr Simon Brooks ei gomisiynu i lunio adroddiad am bolisïau trethiannol a chynllunio ar gyfer ail gartrefi yng Nghymru a Chernyw. Fodd bynnag, oherwydd y diddordeb cynyddol yn y pwnc llosg, gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r ymchwilydd ehangu’r ymchwil er mwyn craffu ar rai materion ehangach yn ymwneud ag ail gartrefi yn ogystal â gwneud argymhellion polisi.
Troi'r Trai Mewn Tri Deg Mlynedd - Pwysigrwydd y Gymraeg yn y Gymru fodern
Mae'r modiwl ar-lein hwn yn edrych ar bwysigrwydd sgiliau da yn y Gymraeg wrth fynd i’r byd gwaith. Mae’n ystyried yn benodol beth yw manteision parhau i astudio’r Gymraeg ar ôl TGAU. Mae’r modiwl wedi ei anelu yn bennaf at ddisgyblion a myfyrwyr mewn ysgolion, colegau addysg bellach a phrifysgolion. Gall hefyd fod o ddefnydd i unrhyw un sydd eisiau dysgu am le a statws y Gymraeg yn y Gymru gyfoes a sut gallwn ni gyd wneud cyfraniad i nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Enillydd Adnodd Cyfrwng Cymraeg 2021 (gwobrau Darlithwyr Cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol).
Cyflwyniad i ieithyddiaeth
Mae "Cyflwyniad i Ieithyddiaeth" yn gyflwyniad i hanfodion Ieithyddiaeth ar gyfer myfyrwyr sydd heb gefndir, neu heb fawr o gefndir, mewn astudio iaith a phynciau ieithyddol (e.e seiniau iaith, morffoleg a chystrawen, ystyr, amlieithrwydd a sosioieithyddiaeth).
Yr Ewyllys i Barhau – J. R. Jones
Araith a draddodwyd gan yr athronydd J. R. Jones yn Eisteddfod y Barri 1968 yn trafod y Cymry Cymraeg fel pobl a'u hawydd i oroesi.
Y Meddwl Modern: Wittgenstein – Walford Gealy
Cyfrifir Ludwig Wittgenstein gan lawer yn athrylith hynotaf yr ugeinfed ganrif mewn athroniaeth. Y mae hefyd yn unigryw yn ei faes gan iddo greu nid un athroniaeth ond dwy, y ddwy yn wreiddiol, dylanwadol a gwrthgyferbyniol. Ceisir yn y gyfrol hon esbonio mewn iaith seml ei ddau safbwynt sydd i'w gweld yn Tractatus Logico-Philosophicus ac yn yr Ymchwiliadau Athronyddol.
Y Meddwl Modern: Lenin – W. J. Rees
Lenin oedd y gwleidydd cyntaf mewn unrhyw wlad i greu chwyldro ar sail egwyddorion Karl Marx. Ai llwyddiant ai methiant fu'r hyn a gyflawnodd ef rhwng 1917 a'i farw ym 1924? Cyn y gellir gosod llinyn mesur ar yr hyn a wnaeth, y mae angen deall yr amgylchiadau y digwyddodd y Chwyldro Comiwnyddol ynddynt, amgylchiadau a oedd yn bur wahanol i'r rhai lle disgwyliasai Marx weld gweithredu ei syniadau. Disgrifir yn y gyfrol hon gyflwr pethau yn Rwsia cyn y Chwyldro, gan amlinellu'n gryno ddatblygiad y gymdeithas a'i sefydliadau. Eir ymlaen i roi braslun o yrfa gyffrous Lenin ac olrheinir rhediad ei syniadau wrth iddo ymlafnio i droi dadansoddiad Marx yn rhaglen o weithredu ymarferol.
Prydeindod – J. R. Jones
Trafodaeth gan yr athronydd J. R. Jones am hunaniaeth y Cymry Cymraeg a'u perthynas â Phrydain a Phrydeindod.
Ni Fyn y Taeog Mo'i Ryddhau – J. R. Jones
Trafodaeth gan yr athronydd Cymreig, J. R. Jones, ar hunaniaeth y Cymry a pherthynas hynny gyda'r iaith Gymraeg, ei dirywiad a'r pwysau i gymhathu â'r diwylliant Prydeinig. Cyhoeddwyd hefyd fel rhan o gyfrol
Darlith Flynyddol Edward Lhuyd
Mae Darlith Edward Lhuyd yn gyflwyniad blynyddol ar wahanol agweddau o fywyd academaidd a chyfoes Cymru a'r byd. Ceir amrywiaeth eang o themâu gan gynnwys daeareg, llenyddiaeth, ecoleg neu hanes. Trefnir y ddarlith rhwng y Coleg a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Noder, ni fu darlithoedd yn 2020 - 2022 oherwydd Covid-19.