Dyma gyfres o bosteri gan gwmni Sgiliaith ar gyfer tiwtoriaid mewn colegau ac aseswyr dysgu’n y gweithle. Maen nhw’n cynnig syniadau ar sut i ddechrau defnyddio a chyflwyno’r Gymraeg yn eich gwersi. Yn y gyfres mae posteri ar y canlynol: Taflen Cyfarchion Taflen Adborth Taflen Cwestiynau Syml Geirfa Dwyieithog i Diwtoriaid ac Aseswyr Dysgu’n y Gweithle Manteision Dwyieithrwydd Creu ethos dwyieithog yn y dosbarth Poster Adnoddau Defnyddiol Poster Dechrau Dwyieithogi Gwers
Sgiliaith: Posteri Dysgu Dwyieithog
Troi'r Trai Mewn Tri Deg Mlynedd - Pwysigrwydd y Gymraeg yn y Gymru fodern
Mae'r modiwl ar-lein hwn yn edrych ar bwysigrwydd sgiliau da yn y Gymraeg wrth fynd i’r byd gwaith. Mae’n ystyried yn benodol beth yw manteision parhau i astudio’r Gymraeg ar ôl TGAU. Mae’r modiwl wedi ei anelu yn bennaf at ddisgyblion a myfyrwyr mewn ysgolion, colegau addysg bellach a phrifysgolion. Gall hefyd fod o ddefnydd i unrhyw un sydd eisiau dysgu am le a statws y Gymraeg yn y Gymru gyfoes a sut gallwn ni gyd wneud cyfraniad i nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Enillydd Adnodd Cyfrwng Cymraeg 2021 (gwobrau Darlithwyr Cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol).
Fideos 'Ar Frys' - defnyddio'r Gymraeg mewn swyddi Gwasanaethau Cyhoeddus
Fideos 'Ar Frys' - defnyddio'r Gymraeg mewn swyddi Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae'r fideos 'Ar Frys' hyn yn dangos profiad saith person sy'n gweithio mewn swyddi pwysig, sydd o dan llawer o straen ac sy'n gweld y fantais o allu siarad â phobl yn y Gymraeg. Os ydych chi'n dilyn cyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus neu Iechyd a Gofal, yna byddwch yn dysgu sut i ddelio â'r cyhoedd – yn enwedig mewn sefyllfa o argyfwng neu berygl. Gan ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg, rydych yn rhoi'r dewis i'r person sydd mewn argyfwng i siarad yr iaith y maen nhw fwyaf cyfforddus yn ei siarad. O ganlyniad, byddwch yn cyflawni’ch gwaith i safon uwch. Cynhyrchwyd y fideos yma gan Coleg Cambria.
Ap Gwasanaethu Trwy'r Gymraeg
Nod yr ap hwn yw cefnogi dysgywr a gweithwyr ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'r cyhoedd. Mae’r geirfa sy’n cael ei ddefnyddio o fewn yr ap yn cyd-fynd gyda’r eirfa ar fanyleb Pearson BTEC Lefel 3 Diploma Estynedig Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'r ap yn cynnwys clipiau sain o dermau a geirfa defnyddiol i helpu defnyddwyr gyda ynganu geirfa, ynghyd â cwisiau rhyngweithiol i brofi gwybodaeth.
Cyrsiau Blasu Dysgu Cymraeg Ar-lein
Cyrsiau 10-awr ar-lein sy'n rhoi blas ar ddysgu Cymraeg i weithwyr o wahanol sectorau, gan gynnwys Iechyd, Gofal, y Gwasanaethau Cyhoeddus, Twristiaeth, Manwerthu a Thrafnidiaeth. Maen nhw’n cyflwyno geirfa ac ymadroddion pob dydd ac maen nhw ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim. Mae’n rhaid mewngofnodi neu greu cyfrif i ddechrau cwrs, proses hawdd iawn (dewiswch ‘arall’ yn y ddewislen, wrth i chi greu eich cyfrif). Datblygwyd y cyrsiau gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Prentis-iaith
Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd yn awyddus i fagu eu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cyrsiau ar gael ar bedwar lefel: Ymwybyddiaeth, Dealltwriaeth, Hyder, Rhuglder ac mae cwis ar gael i ganfod pa lefel sy'n addas ar eich cyfer.