Mae'r erthygl hon yn archwilio goblygiadau diwylliannol enwogrwydd merched a enillwyd drwy gymryd rhan yng ngweithgarwch cenhadol trefedigaethol Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Cafodd merched eu gorchymyn i gyflawni swyddogaethau penodol yn y broses o greu cymunedau Cristnogol mewn trefedigaethau Prydeinig, gan gynnwys troi merched eraill a rhoi disgrifiadau ac esboniadau o'r genhadaeth i gynulleidfa gartref. Yn ogystal â darlithoedd a phregethau gan genhadon, ac arddangosfeydd cenhadol, y prif lwybr trosglwyddo ar gyfer y cyfathrebu hwn oedd y wasg genhadol enwadol. Mae'r erthygl hon yn archwilio sut yr oedd y cenhadon benywaidd yn eu cyflwyno eu hunain a'u gwaith i'r gynulleidfa gartref yn y wasg genhadol rhwng 1887 a 1930, ac yn awgrymu mai'r delweddau yr oeddent yn eu cyflwyno, a'r isleisiau y gellir eu cael yn eu hysgrifennu, oedd y brif ysbrydoliaeth i ferched Presbyteraidd Cymru gefnogi'r achos cenhadol, ac ymffurfio'n fudiad hynod a ddaeth yn sianel hollbwysig ar gyfer noddi gwaith cenhadol. Gwennan Schiavone, 'Y Genhades Gymreig, 1887-1930', Gwerddon, 1, Ebrill 2007, 27-42.
Gwennan Schiavone, 'Llais y genhades Gymreig, 1887-1930' (2007)
Rhys Dafydd Jones, 'Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad, ffydd a pherthyn' (2015)
Dros y blynyddoedd diwethaf, rhoddwyd tipyn o sylw i brofiadau carfannau lleiafrifol sy'n cael eu gwthio i'r ymylon mewn ardaloedd gwledig. Serch hynny, prin yw'r sylw a roddir i garfannau crefyddol mewn rhanbarthau gwledig. Y mae'r prinder sylw hwn yn syndod o ystyried y sylw a roddir i grefydd mewn materion yn ymwneud ag amlddiwylliannedd a dinasyddiaeth gynhwysol. Trafoda'r erthygl hon brofiadau un garfan grefyddol leiafrifol benodol, sef y Mwslemiaid, yng ngorllewin Cymru wledig. Canolbwyntia'r erthygl ar brofiadau o absenoldeb o'r tirlun (h.y. y dirwedd ffisegol a'r delweddau a gwerthoedd ehangach sy'n cyfleu syniadau am leoedd), sy'n medru creu anawsterau o ran hwyluso ymdeimlad o gymuned. Yn ogystal, edrychir ar y modd yr ystyria Mwslemiaid lleol y rhanbarth fel un moesol a Christnogol. Awgryma'r papur bod y profiadau hyn yn troesesgyn syniadau o 'eithrio' a 'pherthyn', ac yn tystio i berthynas gymhleth rhwng Mwslemiaid lleol a'r rhanbarth gwledig hwn. Rhys Dafydd Jones, 'Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad, ffydd a pherthyn', Gwerddon, 19, Ebril 2015, 9-27.
Noel A. Davies, 'Ymateb ffydd i wyddoniaeth gyfoes' (2009)
Ymddangosodd fersiwn o'r erthygl hon (a ysgrifennwyd gan Noel Davies) yn wreiddiol yn The SCM Core Text on World Christianity in the 20th Century, wedi'i hysgrifennu ar y cyd â Dr Martin Conway (Llundain: Gwasg SCM 2008). Ar ôl gosod y ddadl rhwng Gwyddoniaeth a Christnogaeth yn ei chyd-destun hanesyddol, mae'n archwilio amrywiaeth o gwestiynau gwyddonol cyfoes, megis Damcaniaeth y Cwantwm a Pherthynoledd, Cosmoleg, Darganfod DNA, Trin Genynnau a Datblygiadau mewn Triniaeth Feddygol. Mae'r rhan olaf yn archwilio ymatebion Catholig, ymagweddau Efengylaidd a ffwndamentalaidd, ac ymatebion eciwmenaidd i rai o'r materion allweddol hyn. Mae'r erthygl yn gorffen drwy gadarnhau bod cysylltiad rhwng diwinyddiaeth Gristnogol a datblygiadau cyfoes mewn gwyddoniaeth yn hanfodol os yw'r mynegiad cyfoes o ffydd am fod yn ystyrlon ac yn gydlynol. Noel A. Davies, 'Ymateb ffydd i wyddoniaeth gyfoes', Gwerddon, 4, Gorffennaf 2009, 36-50.
Ioan Williams, 'Lewis Edwards a Brad y Dysgedigion' (2017)
Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar dri thraethawd yn ymdrin â Samuel Taylor Coleridge ac Immanuel Kant a gyhoeddwyd gan y diwinydd a'r dysgedydd, Lewis Edwards, yn Y Traethodydd rhwng 1846 a 1853. Ystyrir Edwards yma yn gynrychiolydd arweinwyr crefyddol Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac archwilir ei waith am dystiolaeth o'r agwedd tuag at ddatblygiadau athronyddol y cyfnod a allai gynnig esboniad am ei fethiant i amddiffyn yr iaith a'r diwylliant Cymreig yn wyneb ymlediad y Saesneg. Y ddadl a roddir gerbron yma yw bod ymlyniad Edwards i resymoliaeth ddyfaliadol, sy'n sail i ddiwinyddiaeth Galfinaidd y cyfnod, yn ei atal rhag ymateb yn uniongyrchol i sialens ddeallusol y cyfnod modern. Yn y tri thraethawd hyn, sy'n cyflwyno meddwl Kant fel y'i mynegir yn ei Kritik cyntaf, ynghyd â diwinyddiaeth athronyddol Coleridge fel a geir yn Aids to Reflection, cawn dystiolaeth glir o amharodrwydd Edwards i ymgymryd ag unrhyw sialens i'r athroniaeth Galfinaidd. Y mae'r darlun a gyflwyna o feddwl y ddau awdur yn ddiffygiol ac yn gamarweiniol. Rhan bwysig iawn o Kritik Kant ac Aids Coleridge oedd eu beirniadaeth ysgubol o resymoliaeth ddyfaliadol. Dewisodd Edwards anwybyddu hyn yn gyfan gwbl er mwyn cynnal ei gred yng ngallu dyn i ymestyn at y gwirionedd trwy gyfrwng sythwelediad deallusol, heb gyfeirio at brofiad empeiraidd. Dadleuir mai'r dallineb ewyllysgar hwn tuag at y meddwl modern oedd un o'r prif ffactorau a oedd yn symbylu'r brad y cyhuddir Edwards a'i gyfoedion ohono. Awgrymir hefyd bod y brad hwnnw'n tanseilio nid yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yn unig, ond y grefydd Galfinaidd yr oedd Edwards mor awyddus i'w hamddiffyn. Wrth ymwrthod â sialens y meddwl modern, gadawodd Edwards ei ddisgyblion heb gyfrwng i addasu'r athrawiaeth draddodiadol i ofynion synwyrusrwydd cyfnewidiol. A chanlyniad hynny yn y pendraw oedd ymddieithrwch oddi wrth y gorffennol Ymneilltuol, sydd yn parhau i effeithio arnom heddiw. Ioan Williams, 'Lewis Edwards a Brad y Dysgedigion', Gwerddon, 24, Awst 2017, 83-101.
Gareth Evans-Jones, 'Y Seren yn y Groes: effaith deddfau imperialaidd cynnar Rhufain ar y berthynas rhwng yr E...
Tymhestlog fu hanes perthynas yr Eglwys Gatholig Rufeinig a'r Iddewon, ac yn yr erthygl hon archwilir y modd yr effeithiodd deddfau imperialaidd cynnar Rhufain ar y berthynas honno. Gan gymryd detholiad o ddeddfau, ystyrir y modd y cawsant effaith ar safle cymdeithasol yr Iddew mewn byd a oedd yn troi'n fwyfwy Cristnogol. Eir ymlaen i drafod y modd yr ailgyflwynwyd ambell ddeddf wrth-Iddewig yn ystod yr Oesoedd Canol yn ogystal ag yn ystod y digwyddiad erchyll a oedd yn dyngedfennol i'r Iddew a'r Cristion, yr Holocost. Daw'r erthygl i ben gan bwyso a mesur gwir arwyddocâd y deddfau imperialaidd cynnar a chan gwestiynu perthynas yr Iddew â'r Cristion yn yr unfed ganrif ar hugain. Gareth Evans-Jones, 'Y Seren yn y Groes: effaith deddfau imperialaidd cynnar Rhufain ar y berthynas rhwng yr Eglwys a'r Iddewon', Gwerddon, 23, Mawrth 2017, 58-84.
D. Densil Morgan, 'Yr Ymateb Cynnar i Astudiaeth Saunders Lewis, Williams Pantycelyn'' (2017)'
Yr astudiaeth Williams Pantycelyn (1927) gan Saunders Lewis oedd un o gyfraniadau mwyaf beiddgar at feirniadaeth lenyddol Gymraeg a welwyd yn yr ugeinfed ganrif. Mewn deg pennod ddisglair a chofiadwy, dehonglodd Lewis athrylith yr emynydd mewn dull cwbl annisgwyl ac unigryw. Y ddwy allwedd a ddefnyddiodd i ddatgloi cynnyrch y bardd oedd cyfriniaeth Gatholig yr Oesoedd Canol a gwyddor gyfoes seicoleg, yn cynnwys gwaith Freud a Jung. Enynnodd y gyfrol ymateb cryf, gyda rhai'n gwrthod y dehongliad ond eraill yn ei dderbyn. Yn yr ysgrif hon, disgrifir ymateb rhai o'r beirniaid cynnar: T. Gwynn Jones a oedd, at ei gilydd, yn croesawu'r dehongliad, E. Keri Evans a oedd yn ei wrthod a Moelwyn Hughes a ymatebodd yn chwyrn yn ei erbyn. Oherwydd grym rhesymu Lewis a dieithriwch ei deithi beirniadol, llwyddwyd i ddarbwyllo llawer mai hwn, chwedl Kate Roberts, oedd 'y Williams iawn'. Bu'n rhaid aros tan y 1960au i weld disodli'r farn hon yn derfynol. Erys yr ymatebion yn dyst i feiddgarwch a disgleirdeb Pantycelyn Saunders Lewis. D. Densil Morgan, 'Yr Ymateb Cynnar i Astudiaeth Saunders Lewis, Williams Pantycelyn', Gwerddon, 24, Awst 2017, 51-65.
Cynhadledd Crefydd a'r Byd Modern
Mae'r adnoddau hyn yn deillio o gynhadledd undydd a gynhaliwyd ym mis Medi 2014 ar y pwnc 'Crefydd yn y Byd Cyfoes', dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Y nod oedd rhoi cyfle i fyfyrwyr israddedig a disgyblion chweched dosbarth ddod ynghyd i drafod materion crefyddol sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol. Ceir yma rai o'r cyflwyniadau a gafwyd ar y testunau canlynol: Seciwlariaeth Ffwndamentaliaeth Dyfodiad yr Apocalyps Freud
Cynan Llwyd, 'Byd newydd ymha un y preswylia cyfiawnder': Gweledigaeth Morgan John Rhys (1760–1804)' (2017)'
Yn yr erthygl hon, dadleuir sut y dylanwadodd credoau Morgan John Rhys (1760–1804) ynghylch yr Ailddyfodiad a'r Milflwyddiant ar ei ymwneud ef â'r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth, y Chwyldro Ffrengig ac America. Dangosaf sut yr oedd Milflwyddiaeth yn rym a luniai fydolwg Morgan John Rhys ac a lywiai ei weithredoedd a'i ymgyrchoedd cymdeithasol. Yn ogystal â hyn, dangosir sut y bu i William Williams, Pantycelyn (1717–91), ragflaenu Morgan John Rhys yn y cyd-destun hwn. Dadleuir, wrth astudio Williams a Rhys, na ellir cyfrif Efengyliaeth a'r Oleuedigaeth yn elynion deallusol i'w gilydd, ac mai Milflwyddiaeth oedd un o'r grymoedd pwysicaf ym mywydau'r ddau ddyn hyn a chwaraeodd ran dylanwadol iawn ym mywyd Cymru'r ddeunawfed ganrif. Cynan Llwyd, '“Byd newydd ymha un y preswylia cyfiawnder”: Gweledigaeth Morgan John Rhys (1760–1804)', Gwerddon, 23, Mawrth 2017, 85-98.
Y Meddwl Modern: Weber – Ellis Roberts
Cydnabyddir Max Weber yn un o bennaf sylfaenwyr cymdeithaseg fodern. Mae'r gyfrol hon yn ei leoli yn nhraddodiad cymdeithaseg ac yn amlinellu rhai o'i brif gyfraniadau: ei syniad am 'verstehen' neu 'ddychymyg cymdeithasegol', ei ran yn y drafodaeth fawr ynghylch perthynas cyfalafiaeth â'r grefydd Brotestannaidd, a'i 'deipiau ideal' neu ddiffiniadau o hanfodion cyfundrefnau arbennig.
Lleisiau o'r Lludw: Her yr Holocost i'r Cristion – Gareth Lloyd Jones
Trafodaeth ar agwedd Cristnogion tuag at Iddewon ar hyd y canrifoedd a chyfraniad posib yr Eglwys Gristnogol at gyflafan yr Holocost. Gellir lawrlwytho'r e-lyfr ar ffurf PDF, ePub neu Mobi.