Mae deugain mlynedd o waith ymchwil wedi nodi sawl un o'r prosesau seicolegol sy'n sail i'r gallu i ddarllen. Serch hynny, tan yn ddiweddar, bu seiliau gwybyddol (cognitive) rhuglder darllen yn gymharol anhysbys. Yn yr adolygiad hwn, rhoddir disgrifiad o ruglder darllen fel ffenomen wybyddol a niwrofiolegol, gan gynnwys y gwaith ymchwil a wnaed i ddeall y broses hon. Mae fy ngwaith i a'm cyd-weithwyr yn canolbwyntio ar y maes hwn, ac amlinellaf ein prif ganfyddiadau hyd yma. Deuir â'r gwaith i'w derfyn drwy amlinellu goblygiadau'r gwaith mewn perthynas â deall rhuglder darllen yn achos oedolion medrus ynghyd â'r rhai sydd â'r cyflwr dyslecsia. Manon Jones, 'Seiliau seicolegol darllen yn rhugl: adolygiad', Gwerddon, 18, Medi 2014, 41-54.
Manon Jones, 'Seiliau seicolegol darllen yn rhugl: adolygiad' (2014)
Hanna Binks ac Enlli Thomas, 'Effaith amlder iaith yn y cartref ar wybodaeth oedolion o'r system o greu enwau ...
Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio rôl ansawdd ac amlder amlygiad i fewnbwn ieithyddol (h.y. i ba raddau yr amlygir unigolion i iaith o wahanol ffynonellau yn ystod eu bywydau) ar gaffaeliad oedolion dwyieithog Cymraeg-Saesneg o'r system o greu enwau lluosog Cymraeg. Dangosodd ymchwil flaenorol y ceir gwahaniaethau rhwng plant dwyieithog o gefndiroedd iaith gwahanol. Er ei fod yn bosibl lleihau'r gwahaniaeth wrth iddynt gael eu hamlygu fwyfwy i'r iaith honno, mae cwestiwn ynghylch pa mor gyflym y gellir cael llai o wahaniaethau (os o gwbl) pan fo strwythurau iaith yn gymhleth, yn enwedig os defnyddir y system yn anghyson ymysg gwahanol oedolion. Fodd bynnag, mae i ba raddau y mae'r gwahaniaethau hyn yn diflannu yn ansicr, gan nad oes ymchwil wedi'i chynnal ymysg unigolion dros 11 oed. Felly nod yr astudiaeth oedd asesu gallu oedolion Cymraeg-Saesneg o wahanol gefndiroedd dwyieithog i greu ffurfiau lluosog o enwau Cymraeg er mwyn olrhain i ba raddau y gwelwyd lleihad yn y gwahaniaethau rhwng plant dros amser. Hanna Binks ac Enlli Thomas, 'Effaith amlder iaith yn y cartref ar wybodaeth oedolion o'r system o greu enwau lluosog yn y Gymraeg', Gwerddon, 22, Hydref 2016, 31–46.
Enlli Thomas, 'Natur prosesau caffael iaith gan blant: Marcio cenedl enwau yn y Gymraeg' (2007)
Mae ymchwil ynghylch caffael cenedl ramadegol wedi dangos, mewn nifer o ieithoedd, fod plant yn cael meistrolaeth ar genedl yn gynnar. Yn aml, yn yr ieithoedd hyn, mae marcio cenedl yn eithaf amlwg ac mae'n cynnig cyfatebiaeth un-i-un glir rhwng marciwr a'r genedl a godiwyd. Yn y Gymraeg, fodd bynnag, mae marcio cenedl yn fwy cymhleth. Mae'n cael ei marcio drwy dreigladau, sef cyfres o newidiadau morffo- ffonolegol sy'n effeithio ar gytseiniaid cyntaf geiriau, ac mae'r mapio rhwng treiglad a chenedl yn eithaf anhryloyw. Defnyddir dau fath o dreiglad i farcio cenedl fenywaidd: mae enwau benywaidd yn cael eu newid gan y fannod benodol ac mae ansoddeiriau sy'n dilyn enwau benywaidd yn cael eu treiglo'n feddal, ac mae cenedl fenywaidd yr ansoddair meddiannol 'ei' yn cael ei marcio drwy dreiglo'r enw a newidir yn llaes. Mae'r papur hwn yn cyflwyno dwy astudiaeth sy'n archwilio meistrolaeth gynhyrchiol plant ac oedolion ar genedl fel y'i mynegir drwy dreiglo enwau a newidir gan y fannod benodol, ac ansoddeiriau yn newid enwau. Gwahoddwyd plant, rhwng 4½ a 9 oed, ac oedolion i gymryd rhan yn yr astudiaethau. Yn gyntaf, cynhaliwyd astudiaeth led-naturiolaidd i gael gwybodaeth am ddefnydd y siaradwyr o farcio cenedl. Yna, defnyddiwyd gweithdrefn Cloze i gymell y siaradwyr i greu ffurfiau gwrywaidd a benywaidd, gyda geiriau go iawn a ffurfiau disynnwyr, mewn amrywiaeth o gyd-destunau ieithyddol. Roedd rhai o'r cyd-destunau hyn yn rhoi awgrym o statws cenedl, ond nid oedd rhai eraill. Roedd y data a gafwyd yn dangos bod caffael y system genedl Gymraeg yn broses hirfaith, ac nad yw plant wedi meistroli'r system hyd yn oed erbyn 9 oed. Mae siaradwyr Cymraeg, hyd yn oed pan maent yn oedolion, yn rhoi ychydig o sylw, neu ddim, i'r awgrymiadau posibl sy'n bresennol yn y mewnbwn. Mae'r canlyniadau yn awgrymu, pan fo gan iaith system genedl gymhleth sydd wedi'i marcio gan brosesau morffo-ffonolegol anhryloyw, fod y cwrs datblygu yn faith ac yn amrywiol. Enlli Thomas, 'Natur prosesau caffael iaith gan blant: Marcio cenedl enwau yn y Gymraeg', Gwerddon, 1, Ebrill 2007, 53-81.
Cynhadledd Ymchwil Seicoleg 2013
Cynhaliwyd cynhadledd ymchwil cyfrwng Cymraeg gyntaf yr Ysgol Seicoleg ym Mangor ar 4 Tachwedd 2013. Dr Carl Hughes oedd y prif areithiwr, yn areithio ar Newid Ymddygiad. Gellir lawrlwytho copiau o'r cyflwyniadau Pwerbwynt o dan bob cyflwyniad fideo.Traddodwyd ar ystod eang o bynciau amrywiol: Amy Hulson Jones: 'Gwella sgiliau darllen sylfaenol' Awel Vaughan Evans: 'Trosglwyddiad gramadegol rhwng y Gymraeg a'r Saesneg' Catherine Sharp: 'Y Food Dudes. Y Rhaglen Blynyddoedd Cynnar. Astudiaeth Gwerthuso wedi ei Rheoli' Ceri Ellis: 'Allwn ni gynnal cred mewn un iaith, ond nid y llall? Astudiaeth o gredoau diwylliannol ac emosiynol mewn pobl ddwyieithog Cymraeg-Saesneg' Denise Foran: 'Canlyniadau plant a dderbyniodd ymyriad ABA dwysder isel mewn ysgol anghenion arbennig' Dr Carl Hughes: 'Newid Ymddygiad: Be di'r Broblem?' Dr Leah Jones: 'Ymwybyddiaeth Ofalgar er lles rhieni plant ag anableddau deallusol a datblygiadol: datblygu mesurau cyfrwng Cymraeg ar gyfer ymchwil iechyd meddwl' Dr Nia Griffith: 'Ymchwilio'r Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru' Ela Cernyw: 'Lles seicolegol rhieni sy'n siarad Cymraeg a gyda phlentyn ag anabledd dysgu' Emma Hughes: 'Gyffredinoli trawsieithyddol o effaith therapi mewn anomia dwyieithog Cymraeg-Saesneg' Yvonne Moseley: 'Datblygu rhaglen ddarllen Cymraeg yn seiliedig ar wybodaeth, tystiolaeth ac ymchwil'
Holiadur Pryder Perfformiad
Crewyd yr adnodd hwn er mwyn darparu cefnogaeth seicoleg chwaraeon cyfrwng Cymraeg i athletwyr sy'n siarad Cymraeg. Y nod yw deall yr ymateb pryder perfformiad yn llawn.