Dyma gyfres o bosteri sy'n cynnwys geirfa allweddol dwyieithog i gefnogi'r cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd Lefel 2. Mae'r geirfa wedi eu grwpio i gyfateb â lefel sgiliau iaith y dysgwr. Mae poster geirfa unigol ar gyfer y 7 uned: Uned 1: Egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol (oedolion)) Uned 2: Egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol (plant a phobl ifanc) Uned 3: Iechyd a llesiant (oedolion) Uned 4: Iechyd a llesiant (plant a phobl ifanc) Uned 5: Ymarfer proffesiynol fel gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol Uned 6: Diogelu unigolion Uned 7: Iechyd a diogelwch mewn iechyd a gofal cymdeithasol
Posteri Geirfa Dwyieithog Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gyrfa Cymru: Gweminar a llyfr gwaith Gofal Cymdeithasol (Blynyddoedd Cynnar)
Adnodd i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 3 ddarganfod mwy am yrfa yn y sector gofal cymdeithasol (blynyddoedd cynnar). Bydd dysgwyr yn gallu gwylio gweminar ac yn cwblhau llyfr gwaith
Gyrfa Cymru: Gweminar a llyfr gwaith Gyrfaoedd Gofal Iechyd
Adnodd i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 3 ddarganfod mwy am yrfa yn y sector iechyd. Bydd dysgwyr yn gallu gwylio gweminar ac yn cwblhau llyfr gwaith.
Cynhadledd Seicoleg Ar-lein
Cynhadledd a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2021 ar gyfer myfyrwyr Seicoleg israddedig ac ôl-raddedig a phynciau cysylltiedig megis iechyd ac addysg. Croesawyd dysgwyr 17-18 oed yn y Gynhadledd. Roedd cyflwyniadau'r bore yn dilyn themâu: Iechyd a Lles; Iaith, Datblygiad, ac Addysg Sylfeini Seicolegol Darllen, Dr Manon Jones, Prifysgol Bangor Ffactorau sy’n effeithio ar gaffael cyflawn o systemau gramadegol y Gymraeg, Dr Hanna Binks, Prifysgol Aberystwyth Iechyd meddwl rhieni sydd â phlentyn awtistig, Dr Ceri Ellis, Prifysgol Manceinion Dwyieithrwydd ac Anableddau Datblygiadol, Dr Rebecca Ward, Prifysgol Bangor Defnyddio technoleg i gefnogi iechyd a lles cleifion gwledig, Dr Rachel Rahman, Prifysgol Aberystwyth Yn y prynhawn, roedd Panel Gyrfaoedd gyda phobl yn cynrychioli’r gyrfaoedd canlynol: Seicolegydd Addysg Seicolegydd Clinigol Seicolegydd Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol Therapydd Iaith a Lleferydd Darlithydd Addysg Uwch Roedd hefyd cyfle i ofyn cwestiynau.
Adnoddau Dysgu ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru
Isod ceir ddolen i'r adran adnoddau ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r adnoddau yma'n berthnasol ar gyfer addysgwyr a dysgwyr yn y meysydd Iechyd a Gofal Plant. Yn ogystal, mae dolen i ddogfen sy'n nodi'r adnoddau ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n berthnasol ar gyfer unedau penodol o fewn y cyrsiau Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2 a 3.
Mathau o gyfathrebu yn y sector iechyd a gofal
Adnodd sy’n uwcholeuo mathau o gyfathrebu ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw hwn. Mae’r adnodd yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau lefel 3 yn y maes megis Egwyddorion a Chyd-Destunau neu Safon Uwch. Oherwydd ei fod yn bwnc cyffredin, gall y wybodaeth yma fod yn ddefnyddiol i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio yn y maes iechyd e.e. Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi neu yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn y gymuned. Addaswyd yr adnodd hwn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Diolch i Grŵp Llandrillo Menai am rannu’r cynnwys gwreiddiol.
Cyfathrebu (Egwyddorion a Chyd-destunau Lefel 3)
Adnodd i annog a chefnogi cyfathrebu effeithiol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw hwn. Mae’r adnodd yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio cysriau lefel 3 megis Egwyddorion a Chyd-destunau (Lefel 3). Oherwydd ei fod yn bwnc cyffredin, gall y wybodaeth yma for yn ddefnyddiol i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio yn y maes iechyd, e.e. Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi neu yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn y gymuned. Addaswyd yr adnodd hwn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Diolch i Grŵp Llandrillo Menai am rannu’r cynnwys gwreiddiol.
Symudiad i mewn ac allan o gelloedd
Cafodd yr adnodd ei greu ar gyfer myfyrwyr Gwyddorau Meddygol Lefel 3 ond mae’r wybodaeth yn berthnasol i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio bioleg ar lefel 3 megis Iechyd a Gofal neu Safon Uwch. Mae’n canolbwyntio ar rannau’r gelliben a sut mae elfennau yn symud i mewn ac allan o gelloedd. O fewn y cyflwyniad mae gweithgareddau i wirio eich dysgu. Addaswyd yr adnodd gan Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Diolch i Goleg Sir Gâr am rannu'r cynnwys gwreiddiol.
Maeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Adnodd yw hwn sy'n cyflwyno cydrannau diet cytbwys. Mae wedi ei anelu at staff a dysgwyr ar gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r adnodd dwyieithog hwn yn cyflwyno gwybodaeth ac yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr i wirio dysgu wrth weithio drwy'r cynnwys. Mae'n trafod y rôl mae gwahanol faetholion yn eu chwarae mewn diet. Mae hefyd yn ymdrin â'r Gyfradd Fetabolig Waelodol, Mynegai Màs y Corff ac yn helpu'r dysgwr i greu cynllun maeth ar gyfer unigolion. Addaswyd yr adnodd hwn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Diolch i Goleg Sir Benfro am rannu’r cynnwys gwreiddiol.
Adnoddau Dysgu CBAC ar wefan Dysgu Iechyd a Gofal Cymru
Mae'r adnoddau digidol ar wefan dysguiechydagofal.cymru yn cefnogi dysgu yn y sectorau: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gofal Plant O fis Medi 2019 City & Guilds / CBAC fydd unig ddarparwr cyfres newydd o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant wedi'i hariannu yng Nghymru. Mae gan gwefan Dysgu a Iechyd Gofal Cymru cyfres o adnoddau digidol rhad ac am ddim i wella’r ffordd mae gwybodaeth yn cael ei gyflwyno sy’n sail i’r cymwysterau, ynghyd â’r canllawiau addysgu/cyflwyno, deunyddiau asesu a chanllawiau myfyrwyr sydd ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o’r cymwysterau. Gallant gefnogi dysgu annibynnol drwy ddal sylw dysgwyr a’u cyfeirio at adnoddau eraill a allai fod yn ddefnyddiol iddyn nhw.
Bywyd Newydd: Rhoi Organau (2015)
Bob blwyddyn yng Nghymru mae tua 30 o bobl yn marw wrth aros am drawsblaniad organ, ond mae rheolau newydd wedi dod i rym yma a fydd yn golygu o bosib y daw mwy o organau ar gael. Yn y rhaglen hon cawn gwrdd â'r rhai sydd yn aros am drawsblaniad, y rhai sydd wedi cael, a'r bobl sydd yn gweithio yn y maes yn cefnogi'r rhoddwyr a'r rhai sydd yn derbyn. Cawn wybod yn union sut beth yw byw ar y rhestr aros, a sut beth yw cael trawsblaniad - a'r cyfle am fywyd newydd. Cwmni Da, 2015. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Prentis-iaith
Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd yn awyddus i fagu eu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cyrsiau ar gael ar bedwar lefel: Ymwybyddiaeth, Dealltwriaeth, Hyder, Rhuglder ac mae cwis ar gael i ganfod pa lefel sy'n addas ar eich cyfer.