Mae Darlith Edward Lhuyd yn gyflwyniad blynyddol ar wahanol agweddau o fywyd academaidd a chyfoes Cymru a'r byd. Ceir amrywiaeth eang o themâu gan gynnwys daeareg, llenyddiaeth, ecoleg neu hanes. Trefnir y ddarlith rhwng y Coleg a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Noder, ni fu darlithoedd yn 2020 - 2022 oherwydd Covid-19.
Darlith Flynyddol Edward Lhuyd
Cynhadledd ‘Boddi mewn Celfyddyd’: Gwaddol ’65
Hanner can mlynedd ar ôl boddi Tryweryn, trefnwyd cynhadledd i gasglu ynghyd a gwerthfawrogi’r gwaddol celfyddydol a ysbrydolwyd gan foddi’r cwm mewn cynhadledd deuddydd mewn lleoliad arbennig nid nepell o Dryweryn. Yn ystod y gynhadledd, traddodwyd darlithoedd gan Dafydd Iwan a Manon Eames, a chafwyd arddangosfa aml-gyfrwng unigryw yn dogfennu hanes y boddi, a’r cynnyrch celfyddydol a grëwyd yn ei sgil. Cafwyd hefyd gyfle i ymweld â Thryweryn a chlywed am brofiadau ac atgofion Aeron Prysor Jones am foddi’r cwm, yn ogystal â mwynhau detholiad o’r ddrama Porth y Byddar gan Manon Eames, o dan gyfarwyddyd Siwan Llynor. Noddwyd y gynhadledd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor.
A. Russell Davies, 'Dadymdroelliad y modwlws cymhlyg mewn glud-elastigedd llinol' (2017)
Mae sbectrwm llaciad defnydd glud-elastig yn allweddol i ddisgri o ei fecanweithiau llaciad ar lefel folecwlar. Mae hefyd yn chwarae rhan sylfaenol mewn cyrchu dosraniad pwysau molecwlar, ac mewn modelu dynameg llifyddion cymhleth. Ni ellir mesur y sbectrwm llaciad yn uniongyrchol, ond mae'n bosibl ei ddarganfod yn rhannol drwy fesuriadau arbrofol o ymateb glud-elastig ar lefel facrosgopig. Yn benodol, dosraniad di-dor o amserau llaciad yw'r sbectrwm llaciad, y gellir ei adfer, o leiaf yn lleol, wrth fesur modwlws cymhlyg y defnydd. Er y bu mynegiadau mathemategol ar gael am y sbectrwm di-dor am dros ganrif neu fwy, nid oedd y rhain yn caniatáu gweithredu rhifi adol am sawl degawd, gan fod hyn yn golygu gweithredyddion gwrthdroi nad ydynt yn ddi-dor, ac yn arwain at ansadrwydd eithriadol. Symudwyd ymlaen pan gyflwynwyd, rhyw ddau ddegawd yn ôl, ddulliau rheoleiddiadol am frasamcanu sbectrymau llinell arwahanol. Er hyn, roedd yn rhaid aros tan 2012 cyn i Davies a Goulding gynnig dull rheoleiddiad tonnell i adfer sbectrymau di-dor mewn fframwaith mathemategol manwl gywir. Datblygwyd y gwaith hwn ymhellach yn 2016 wrth gyflwyno ffurf fathemategol spectrosgopeg deilliad trefn uchel, sy'n cynnwys dilyniannau o ddeilliadau modwli dynamig, a elwir yn ddilyniannau Maclaurin. Yn yr erthygl hon, cyflwynir cyfi awnhad manwl gywir am ddefnyddio dilyniannau Maclaurin. Ymhellach, cyflwynir dilyniant newydd, a elwir yn gywiriad dilyniant tonnell, sy'n cyflawni'r un cywirdeb manwl â dilyniannau Maclaurin, gyda threfn differiad is. A. Russell Davies, 'Dadymdroelliad y modwlws cymhlyg mewn glud-elastigedd llinol', Gwerddon, 24, Awst 2017, 22-37.
Academi Cynhadledd Achos
Mae'r clipiau yma yn olrhain hanes cynhadledd achos er mwyn gwarchod plant. Mae’r clipiau yn cynnig enghraifft i fyfyrwyr o’r modd y cynhelir Cynhadledd Achos. Yn yr achos hwn, trafodir dau blentyn ifanc o’r enw Siân a Dylan. Mae Siân yn bump oed, a Dylan yn fabi deunaw mis oed. Pwrpas cynnal y Gynhadledd Achos yw i benderfynu a ddylai’r plant barhau ar y gofrestr amddiffyn plant ai peidio. Mae'r fideo wedi ei rannu mewn i 8 rhan. Dychmygol yw’r cymeriadau yn yr adnodd hwn, ond mae’r math yma o sefyllfa yn gyffredin iawn o fewn cyd-destun y Gynhadledd Achos.
Aled Gruffydd Jones, 'Gwerddon: gwyrddlasu anialdir? Rhai sylwadau ar hanes e-gyfnodolyn academaidd Cymraeg' (...
Ar achlysur ei ddeuddegfed pen-blwydd a’i ganfed erthygl, olrheinir yn yr erthygl hon hanes Gwerddon fel e-gyfnodolyn academaidd ac fel datblygiad cyffrous yn natblygiad diweddar yr uwchefrydiau yn y Gymraeg. Er iddo ymddangos am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2007, taera’r awdur fod ei wreiddiau’n gorwedd yn ddwfn yn hanes defnydd y Gymraeg ledled y disgyblaethau academaidd yn ein sefydliadau Addysg Uwch yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif, yn y Gwyddorau yn ogystal â’r Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Aled Gruffydd Jones, 'Iechyd ac iachawdwriaeth: meddygaeth, y corff a'r drefn foesol ym Mengâl drefedigaethol ...
Gan elwa ar haen hynod gyfoethog o archifau cenhadol Cymreig yn India'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a chychwyn yr ugeinfed ganrif, mae'r erthygl yn tynnu sylw at y modd y daeth gofal am y cleifion yn rhan ganolog, ond problemus, o'r Genhadaeth Gristnogol. Tra rhoddodd eu fferyllfeydd, eu clinigau a'u hysbytai lwyfan ac amlygrwydd i'r broses efengylaidd, ar yr un pryd agorwyd ganddynt dyndra dyfnach mewn cyswllt, er enghraifft, â gwleidyddiaeth rhyw a thrawsblannu arferion meddygol Gorllewinol mewn cymdeithas drefedigaethol. Aled Gruffydd Jones, 'Iechyd ac iachawdwriaeth: meddygaeth, y corff a'r drefn foesol ym Mengâl drefedigaethol 1840-1935', Gwerddon, 14, Ebrill 2013, 8-28.
Anwen Elias, 'Pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol ac ymaddasu i ddatganoli: Astudiaeth gymharol o Blaid Cymru...
Mewn nifer o fannau, mae datganoli wedi creu cyfleoedd newydd i bleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol sicrhau lefelau newydd o gefnogaeth etholiadol, tra bod nifer hefyd wedi'u sefydlu eu hunain fel pleidiau llywodraethol. Fodd bynnag, ychydig iawn o sylw ysgolheigaidd sydd wedi ei roi i'r modd y bydd pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol yn ymaddasu i fod yn actorion canolog ar y lefel ranbarthol. Cyflwyna'r erthygl hon ddwy astudiaeth achos – Plaid Cymru a'r Bloque Nacionalista Galego yng Ngalisia – er mwyn astudio sut y bu iddynt ymaddasu i ennill cynrychiolaeth, perthnasedd, a statws plaid lywodraethol ar y lefel ranbarthol. Dadleuir fod profiadau'r pleidiau hyn ymhell o fod yn unigryw. Yn hytrach, maent yn adlewyrchu'r sialensau a wynebir gan unrhyw blaid wrth iddi ddatblygu o fod yn blaid protest, i fod yn blaid mewn grym. Anwen Elias, 'Pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol ac ymaddasu i ddatganoli: Astudiaeth gymharol o Blaid Cymru a'r Bloque Nacionalista Galego', Gwerddon, 7, Ionawr 2011, 45-65.
Anwen Jones, 'Cymru, cenedligrwydd a theatr genedlaethol: Dilyn y gwys neu dorri cwys newydd?' (2011)
Mae'r erthygl hon yn astudiaeth o'r berthynas rhwng cenedligrwydd a theatr genedlaethol yng Nghymru o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y presennol. Ystyrir cenedligrwydd Cymreig yng nghyd-destun y drafodaeth gyfoes ar gysyniadau o'r genedl gan feirniaid blaengar Umut Okirimli a Hans Kohn. Amcan yr erthygl yw archwilio'r cwestiynau hanfodol sy'n codi yn sgil y berthynas hanesyddol a chyfredol rhwng theatr genedlaethol, fel ymarfer celfyddydol, a mynegiant gwleidyddol o hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru. Asesir arwyddocâd theatr genedlaethol fel arf i fynegi hunaniaeth genedlaethol a gofynnir y cwestiwn, a ydyw theatrau cenedlaethol newydd yr unfed ganrif ar hugain yn cyfeirio yn ôl at gysyniadau traddodiadol o'r genedl a chenedligrwydd neu, a ydynt, yn hytrach yn gweithredu math newydd ar genedligrwydd cyfoes a ddiffinnir fel, 'an interaction of culutral coalescence and specific political intervention'? Anwen Jones, 'Cymru, cenedligrwydd a theatr genedlaethol: Dilyn y gwys neu dorri cwys newydd?', Gwerddon, 8, Gorffennaf 2011, 45-55.
Anwen Jones, Perfformio dinasyddiaeth: Sisters, cynhyrchiad ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Junoon The...
Prif amcan yr erthygl hon yw gofyn sut mae dinasyddion Cymru fodern yn defnyddio’r adnoddau theatraidd sydd ar gael iddynt er mwyn archwilio a mynegi eu hunaniaethau a’u profiadau cenedlaethol. Man cychwyn y drafodaeth fydd cynhyrchiad o’r enw Sisters, prosiect ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Junoon Theatre Mumbai. Mae Sisters yn ysgogi trafodaeth am ddulliau newydd o greu ac o gyfranogi o theatr sydd yn ymateb yn greadigol i heriau cymdeithas fyd-eang, ddigidol ac ôl-gyfalafol yr unfed ganrif ar hugain. Wrth drin a thrafod y cynhyrchiad a’i gyd-destun, defnyddir gweledigaeth gignoeth Johannes Birringer o theatr gyfoes fel gweithgarwch trawsffurfiannol sy’n canolbwyntio ar gyd-greu anhysbys a dadwreiddiedig fel canllaw i fesur llwyddiant ac arwyddocâd Sisters. Dadleuir hefyd fod yr union amgylchedd cymdeithasol a ysgogodd weledigaeth Birringer yn rhoi pwysigrwydd ffres ar ddadl Amelia Jones am werth ymateb i gynhyrchiad neu berfformiad trwy gyfrwng tystiolaeth eilaidd, neu falurion, chwedl Matthew Reason.
Archwilio Cymru'r Oesoedd Canol: Testunau o Gyfraith Hywel
Mae'r ddogfen hon gan Sara Elin Roberts a Christine James yn cynnig cyflwyniad cyffredinol i Gyfreithiau Hywel Dda, sef cyfreithiau brodorol Cymru yn yr Oesoedd Canol, trwy roi 'blas' i'r darllenydd ar yr amrywiaeth eang o feysydd gwahanol sy'n cael eu trafod yn y llawysgrifau gwreiddiol - meysydd mor amrywiol â chyfraith Gwragedd a Gwerth Offer, Coed a Chathod, rheolau ynghylch Tir, a Thrais, a Theulu'r Brenin... I gynorthwyo'r darllenydd amhrofiadol, ac er mwyn annog astudiaethau yn y maes, gosodwyd y detholion o'r testunau Cymraeg Canol gwreiddiol ochr-yn-ochr â 'chyfieithiadau' ohonynt mewn Cymraeg Diweddar. Mae rhagymadrodd byr i bob pwnc yn ei dro, a llyfryddiaeth ddethol ar ddiwedd pob uned ar gyfer darllen pellach. Dyma gyfrol a fydd o ddiddordeb a defnydd i bawb sy'n ymddiddori yn hanes y Gyfraith, hanes Cymru neu lenyddiaeth Gymraeg yn yr Oesoedd Canol. Ceir llawer mwy o wybodaeth am Gyfraith Hywel Dda ar wefan Cyfraith Hywel:
Arddun Hedydd Arwyn, 'Cystadlaethau cof - naratif a hanes yn Amgueddfa Heimat Wehlau: Negodi hanes a chof cymh...
Rhwng 1945 a 1948 gorfodwyd i hyd at ddeuddeg miliwn o Almaenwyr a oedd yn trigo yn Nwyrain Ewrop fudo yn dilyn newidiadau a wnaed i ffiniau'r wlad. Daeth nifer o'r Almaenwyr hyn i fyw yng Ngweriniaeth Ffederal yr Almaen, lle y'u gelwid yn 'allwladwyr'. I goffáu eu mamwlad golledig, agorwyd amgueddfeydd bychain yn cynrychioli'r ardaloedd yr allwladwyd hwy ohonynt. Mae'r erthygl hon yn trafod y portread o gof a hanes yn amgueddfa tref Wehlau a oedd yn Nwyrain Prwsia. Drwy ymchwilio themâu fel cynrychioliad y famwlad, yr Ail Ryfel Byd ac integreiddiad yr Almaenwyr hyn i Orllewin yr Almaen, bydd yr erthygl hon yn trafod y tebygrwydd, y gwahaniaethau a'r tensiynau rhwng diwylliant cof yr allwladwyr a diwylliant cof yr Almaen yn ehangach. Arddun Hedydd Arwyn, '“Cystadlaethau cof”, naratif a hanes yn Amgueddfa Heimat Wehlau: Negodi hanes a chof cymhleth yr Almaen yn yr ugeinfed ganrif', Gwerddon, 25, Hydref 2017, 45–69. Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn
Arwyn Edwards et al., 'Darogan cyfraniadau rhewlifoedd olaf Eryri i gylchredoedd carbon Cyfnod y Dryas Diwedda...
Ceir cefnogaeth gref i'r cysyniad o ecosystemau rhewlifol drwy fesuriadau o gyfraddau sylweddol o gylchu carbon a maetholynnau ar rewlifoedd cyfoes. Serch hynny, ni roddwyd llawer o ystyriaeth i bwysigrwydd posibl y cyfraniadau hyn yn ystod cyfnodau cynt o rewlifiant. Felly modelwyd cynefinoedd a llifoedd carbon ar rai o baleorewlifoedd gogledd Cymru o'r Dryas diweddaraf. Amcangyfrifwyd amsugniad net o 30-180 kg C fesul CO2 y flwyddyn ac allyriad methan rhwng 265-1591 g C fel CH4. Mae hyn yn pwysleisio'r posibilrwydd o gylchu carbon ar rewlifoedd diweddaraf Cymru ond gellir ymestyn ar hyn drwy wella ein sail data cyfoes, archwilio biofarcwyr o fewn gwaddodion a mewngorffori'r data i fodelau llif thermomecanig o ddeinameg rhewlifoedd y Defensaidd. Arwyn Edwards, Sara M. Rassner, Tristram D. L. Irvine-Fynn, Hefin Wyn Williams a Gareth Wyn Griffith, 'Darogan cyfraniadau rhewlifoedd olaf Eryri i gylchredoedd carbon Cyfnod y Dryas Diweddaraf', Gwerddon, 12, Rhagfyr 2012, 53-78