Mae'r adnodd wedi ei anelu at ddarlithwyr a myfyrwyr Gofal Pant. Mae'n cynnwys cyflwyniad a gweithgareddau i wirio'ch gwybodaeth. Mae'r cyflwyniad yn edrych ar ddwyieithrwydd a'i bwysigrwydd yn y Sector Gofal yng Nghymru. Mae hefyd yn edrych ar y deddfau sydd wedi cael effaith ar sut i ni gyd yn defnyddio'r Gymraeg heddiw. Mae'r cynnwys yn berthnasol i gwrs lefel 2 Craidd Gofal Plant (Uned 001, Deilliannau dysgu 9.1-9.9). Addaswyd yr adnodd hwn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Diolch i Goleg Sir Benfro am rannu’r cynnwys gwreiddiol.
Yr Iaith Gymraeg, y Gyfraith a Gofal Plant
Fideo Gofalwn Cymru (Helen Dobson, Gwaith Cymdeithasol)
Fideo o Helen Dobson (Gweithiwr Cymdeithasol) sy'n rhan o ymgyrch #GofalwnCymru 2020 Roedd Helen yn athrawes gyflenwi mewn ysgolion cynradd am ddeng mlynedd ar hugain, ond un diwrnod penderfynodd ei bod eisiau gwneud mwy i wneud gwahaniaeth, felly gwnaeth ei MSc mewn Gofal Cymdeithasol a daeth yn Weithiwr Cymdeithasol. Gallwch weld rhagor o astudiaethau achos ar wefan Gofalwn.Cymru
Sgwrs Iach
Cyfres o glipiau fideo i addysgu pobl ifanc am y gwahanol ddewisiadau gyrfa sydd ar gael o fewn y sector iechyd a gofal yng Nghymru gyda'r bwriad o sbarduno diddordeb myfyrwyr yn y sector, a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg o fewn y sector. Datblygwyd yr adnoddau gan Goleg Cambria.
Adnodd hyfforddi i gefnogi gweithio dwyieithog: Urddas, iaith a gofal
Mae’r pecyn canlynol ar gyfer unigolion sy’n dymuno cyflwyno sesiwn hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i’w dysgwyr. Hyd y sesiwn yw un awr. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer: myfyrwyr Lefel 1, 2, 3, 4 a 5 iechyd a gofal cymdeithasol neu ofal plant tiwtoriaid ac aseswyr mewn colegau myfyrwyr gofal/gwaith cymdeithasol neu ofal plant mewn prifysgolion. Mi allai hefyd gael ei ddefnyddio fel rhan o hyfforddiant mewn swydd ar gyfer gweithwyr yn y meysydd uchod a gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru. Nod y pecyn yw arfogi hyfforddwyr i gyflwyno gwybodaeth am iaith a thrafod sut i weithio’n ddwyieithog gyda’u dygwyr. Cyflwynir y pecyn ar ffurf PowerPoint gyda nodiadau hyfforddwr i gefnogi pob sleid. Mae’r nodiadau hyfforddwr yn cyflwyno sgript arweiniol, yn ogystal ag yn cynnig ambell i syniad am sut i gyflwyno tasgau ac annog y dysgwyr i fod yn rhagweithiol yn y sesiwn. Datblygwyd yr adnoddau gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Ap Gofalu Trwy'r Gymraeg
Crewyd yr ap hwn ar gyfer Prifysgol Abertawe a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i helpu myfyrwyr i fagu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle neu wrth astudio. Mae'r eirfa wedi ei rhannu i 21 o adrannau gan gynnwys Ososteopathi, Bydwreigiaeth a Thechnoleg Glinigol. Gall defnyddwyr ddewis cuddio neu ddangos y Saesneg ar y tudalennau wrth i'w Cymraeg wella. Dyluniwyd, datblygwyd a recordiwyd sain yr ap gan Galactig. Y gyflwynwraig Nia Parry leisiodd yr ap.