Gweithdy gan Dr Gwawr Ifan, sy'n annog addysgwyr i ystyried amrywiol ffyrdd o fynd ati i werthuso eu haddysgu, ymarfer hollbwysig sy’n rhan greiddiol o ddatblygiad addysgwyr newydd a phrofiadol fel ei gilydd. Mae Gwawr Ifan yn ddarlithydd mewn cerddoreg yn Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor. Dechreuodd ei gyrfa fel darlithydd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar ôl derbyn un o ysgoloriaethau cyntaf y Coleg. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar gerddoriaeth mewn iechyd a lles, ac mae ganddi brofiad helaeth o addysgu myfyrwyr ar lefel isradd ac ôl-radd. Os hoffech drafod unrhyw faterion yn ymwneud gyda gwerthuso addysgu, mae croeso i chi gysylltu gyda mi dros e-bost am sgwrs bellach: g.ifan@bangor.ac.uk