Mae’r gweithdy hwn gan Dyddgu Hywel, darlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn cynnwys gwybodaeth a hyfforddiant syml cam-wrth-gam i ddefnyddio’r meddalwedd cyflwyno Prezi. Beth yw Prezi? Prezi yw meddalwedd cyflwyno sydd yn ymgysylltu gyda myfyrwyr yn y dosbarth. Mae’n ddull arloesol o gyflwyno gwahanol bynciau trwy ddefnyddio symudiad a gofod i ddod â’ch syniadau yn fyw, a’ch gwneud yn gyflwynydd unigryw. Cynnwys y sesiwn Beth yw Prezi? Rhagflas Prezi Hyfforddiant Prezi Manteision Prezi
Gweithdy Prezi gan Dyddgu Hywel
Gweithdy Socrative gan Dyddgu Hywel
Mae’r gweithdy hwn gan Dyddgu Hywel, darlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn cynnwys gwybodaeth a hyfforddiant syml cam-wrth-gam i ddefnyddio’r ap Socrative gyda’ch myfyrwyr yn y dosbarth, mewn darlith neu seminar. Beth yw Socrative? Yr ap angenrheidiol mewn dosbarth ar gyfer hwyl, ymgysylltiad effeithiol ac asesu ar gyfer dysgu. Cynnwys y sesiwn Beth yw Socrative? Rhagflas Socrative Hyfforddiant Socrative Manteision Socrative
Gweithdy Gwerthuso Addysgu
Gweithdy gan Dr Gwawr Ifan, sy'n annog addysgwyr i ystyried amrywiol ffyrdd o fynd ati i werthuso eu haddysgu, ymarfer hollbwysig sy’n rhan greiddiol o ddatblygiad addysgwyr newydd a phrofiadol fel ei gilydd. Mae Gwawr Ifan yn ddarlithydd mewn cerddoreg yn Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor. Dechreuodd ei gyrfa fel darlithydd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar ôl derbyn un o ysgoloriaethau cyntaf y Coleg. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar gerddoriaeth mewn iechyd a lles, ac mae ganddi brofiad helaeth o addysgu myfyrwyr ar lefel isradd ac ôl-radd. Os hoffech drafod unrhyw faterion yn ymwneud gyda gwerthuso addysgu, mae croeso i chi gysylltu gyda mi dros e-bost am sgwrs bellach: g.ifan@bangor.ac.uk