Portread o'r pianydd ifanc disglair Llŷr Williams, a ddisgrifiwyd yn mhapur The Times fel 'un a fydd bron yn sicr ryw ddydd yn un o'r mawrion.' Bu'r Cymro 29 oed o Bentrebychan, Sir y Fflint, yn astudio cerddoriaeth yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen, ac yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Wrth astudio, enillodd yr holl wobrau posibl a graddio yn 2000 gyda Dip RAM, cymhwyster ucha'r Academi. Yn 2004 dewiswyd LlÅ·r fel Artist Cenhedlaeth Newydd y BBC ac yn 2005 fe enillodd wobr gyntaf MIDEM Classique mewn partneriaeth gydag IAMA ar gyfer 'Yr Artist Ifanc Eithriadol'. Mae ei berfformiad o weithiau Mozart yn hudol. Opus, 2006. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Pianydd Llŷr Williams (2006)
Dŵr a Thân (1992)
Gŵr a gwraig o Gymru ar eu gwyliau mewn maes pebyll yn Llydaw, yn cyfarfod a rhannu profiadau a phroblemau teulu o wlad Pwyl, sydd yn westeion i lywodraeth Ffrainc, yn dathlu dymchwel y wal. Gan Emyr Humphreys. Gyda Mei Jones, Mari Rowland Hughes, Tom Richmond, Buddug Povey, Iola Gregory a Dyfan Roberts. Ffilmiau Bryngwyn, 1992. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Mametz (1987)
Brwydr Coedwig Mametz ar y Somme oedd un o frwydrau mwyaf gwaedlyd y Rhyfel Byd Cyntaf. Dros gyfnod o bum niwrnod yn Gorffennaf 1916, collodd Byddin Gymreig Lloyd George 4,000 o ddynion, naill ai wedi'u lladd neu eu hanafu wedi ymosodiadau ar y goedwig. Yn ystod y mis hwn [Gorff 1987] mae rhai o'r cyn-filwyr sydd dal yn fyw yn dychwelyd i Goedwig Mametz am y tro cyntaf mewn 71 o flynyddoedd i ddadorchuddio cofeb i'r sawl a lladdwyd yng Nghoedwig Mametz. Daw elfennau o'r archif gan yr Amguedfa Genedlaethol, Amgueddfa Filwrol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. HTV Cymru, 1987. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Dirgelwch yr Ogof (2002)
Dwy ganrif yn ôl yn ne Ceredigion: lle yn llawn tlodi a smyglwyr. Mae mab stad y Glascoed, Harri, yn dychwelyd o'i deithiau tramor i ddarganfod fod y stad mewn trafferthion ariannol a bod disgwyl iddo ef briodi merch gyfoethog leol. Ffilm yn llawn antur a rhamant wedi'i haddasu o glasur T. Llew Jones, gyda Huw Rhys, Lowri Steffan a Mali Harries. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cymdeithas yr Iaith yn 50 (2012)
Gwion Lewis, y bargyfreithiwr o Fôn, sydd yn cyflwyno rhaglen ddogfen arbennig yn pwyso a mesur hanner canrif o ymgyrchu brwd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, mudiad sydd wedi chwarae rhan bwysig yn llywio hunaniaeth a diwylliant Cymru. Rondo, 2012. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cameleon (1996)
Ffilm gan Ceri Sherlock sy'n adrodd hanes ffoadur o'r Ail Ryfel Byd sy'n dianc rhag erchylldra'r rhyfel yn ôl i'w gynefin. Mae'r ffilm yn ymdreiddio i isymwybod y ffoadur ac yn portreadu clawstroffobia ac ofn y cymeriad wrth iddo ymdopi a byw mewn caethiwed cwbl wahanol i'r hyn y dihangodd oddi wrtho. Elidir, 1996. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Llid y Ddaear (1989)
Ffilm gan Karl Francis sy'n olrhain hanes cymdeithas lofaol yn ne Cymru drwy lygaid Gwen, brodores o'r ardal sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 110 oed. Cinecymru 1989. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Tocyn Diwrnod: Breuddwyd Cymro mewn Dillad Benthyg (1990)
Daw hanes Cymru'n fyw yn y gyfres addysg boblogaidd hon a gafodd ei hysgrifennu a'i pherfformio gan Theatr Gorllewin Morgannwg. Yng nghwmni pedwar actor ifanc, awn ar daith yn ôl i'r gorffennol i ddarganfod mwy am rai o gyfnodau a digwyddiadau pwysicaf ein hanes. Heddiw, cawn olrhain hanes milwyr o Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. ITV Cymru, 1990. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Wyneb Glyndŵr (2011)
Mae Julian Lewis Jones a thîm o arbenigwyr yn mynd ar daith ryngwladol i ddod o hyd i wyneb Owain Glyndŵr. Maent yn casglu cliwiau ar y daith ac yn bwydo'r cliwiau yn ôl i arbenigwyr fydd yn ail-greu wyneb Owain Glyndŵr o'r newydd mewn CGI. A fydd y tîm yn llwyddo? A fydd modd dod o hyd i gliwiau sydd wedi eu cuddio am ganrifoedd mewn llyfrau hanes ac archifau Ewropeaidd? Erbyn diwedd y rhaglen y nod yw dadorchuddio wyneb arwr sydd heb ei weld ers dros 600 mlynedd! Wild Dream Films, 2011. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Tir Sir Gâr (2013)
Addasiad teledu o sgript y cynhyrchiad theatrig hynod o lwyddiannus Tir Sir Gâr. Pan mae ffermwr yn cwympo'n dost daw teulu at ei gilydd i drafod dyfodol y fferm. A fydd un o'r plant yn barod i gadw'r traddodiad teuluol yn fyw? Beth yw perthynas y genhedlaeth ifanc â'r tir? Beth sy'n cael ei golli wrth i bobl roi'r gorau i ffermio a gadael cefn gwlad? Mae'r ddrama gan Roger Williams (awdur Gwaith/Cartref) yn archwilio'r her sy'n wynebu ffermwyr a'r newidiadau cymdeithasol sy'n digwydd yng nghefn gwlad Cymru heddiw. Cast y cynhyrchiad theatr, gan gynnwys Rhian Morgan a Dewi Rhys Williams, sy'n ail-afael yn eu rhannau ar gyfer yr addasiad hwn. Joio, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Amdani (Cyfres 1)
Cawn fwynhau cwmni Llinos (Ffion Dafis) a gweddill y tîm rygbi merched mewn tref fechan yng Ngogledd Cymru. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Bywyd Coll Lloyd George (1996)
Rhaglen am un o Gymry mwyaf dylanwadol y ganrif, pensaer y wladwriaeth les, a Phrif Weinidog Prydain Fawr. Yn ôl A. J. P. Taylor, Lloyd George oedd arweinydd mwya' Prydain ers Oliver Cromwell. Mae'r rhaglen hefyd yn sôn am ddarganfod ffilm golledig am fywyd y Prif Weinidog hyd at 1918. Dangosir darnau o'r ffilm hwnnw yn y rhaglen hon. Teliesyn, 1996. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.