Adnodd o wefan Hwb am yrfaoedd i ddysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3 ac ymlaen sy'n tynnu sylw at yr hyn y mae'n ei olygu i gael gyrfa bortffolio yn y celfyddydau gweledol. Mae'r adnodd yn cynnwys 15 fideo sy'n dangos cyfleoedd yn y celfyddydau gweledol, gan gynnwys celf mewn gofal iechyd, addysg, celf gyhoeddus, arddangos a gweithio mewn orielau.
Gyrfaeoedd Portffolio yn y Celfyddydau Gweledol
Panel Trafod: Hedd Wyn
Dyma gyfle gwerthfawr i glywed panel o arbenigwyr yn trafod y ffilm arobryn, Hedd Wyn, a sgriptiwyd gan Alan Llwyd ac a gyfarwyddwyd gan Paul Turner. Yn ystod y sesiwn, geir trafodaeth ar amrywiol agweddau o’r ffilm gan gynnwys y cyd-destun hanesyddol a diwylliannol, y themâu yr ymdrinnir â hwy, y portread o’r cymeriadau a’r berthynas rhyngddynt yn ogystal â’r defnydd o symbolaethau o fewn y ffilm. Ystyrir hefyd bwysigrwydd a chyfraniad y ffilm o fewn cyd-destun Cymreig a rhyngwladol. Panel yn cynnwys Dr Manon Wyn Williams a'r Athro Gerwyn Wiliams, Prifysgol Bangor, yr actor Huw Garmon a Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth yr Ysgwrn. Addas yn benodol ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 sy'n astudio'r ffilm ar gyfer arholiad llafar Cymraeg UG (Uned 1), ond o ddiddordeb yn ehangach hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr hanes. Sesiwn a recordiwyd yn Pontio, Bangor, yn ystod mis Mawrth 2023, mewn cydweithrediad rhwng Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor a Pontio. Noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Chwilio am fwy o adnoddau ar Hedd Wyn? Gwyliwch ein sesiwn adolygu Ar-lên sydd ar gael yma.
Gweminarau Diwydiannau Creadigol i Ddysgwyr mewn Colegau Addysg Bellach (Tymor y Gwanwyn 2023)
Cyfres o weminarau i roi cyfle i ddysgwyr drafod eu pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg. Daeth y siaradwyr gwadd canlynol i siarad gyda'r dysgwyr: 11.01.23 - Iwan England Pennaeth Di - Sgript S4C 18.01.23 - Naomi Hughes Arbenigwr Dylunio a Thechnoleg 25.01.23 - Izzy Rabey - Cyfarwyddwr Theatr a Cherddor 01.02.23 - Llio James - Dylunydd tecstiliau 08.02.23 - Rhuannedd Richards – Cyfarwyddwr BBC Cymru 15.02.23 - Huw Aaron -Awdur a Dylunydd 01.03.23 - Elan Elidyr - Dawnswraig 08.03.23 - Steffan Dafydd - Dylunydd a Cherddor 15.03.23 - Efa Blosse Mason - Animeiddiwr 22.03.23 – Taith Ceir dolenni i wylio'r sesiynau â recordiwyd isod.
Ysgrifau ar Ffilm a'r Cyfryngau – Elin Haf Gruffydd Jones (gol.)
Dyma gasgliad o deuddeg o ysgrifau ar wahanol agweddau ar ffilm a'r cyfryngau. Mae rhai wedi eu lleoli'n ddiamwys ym myd y diwydiannau Cymreig a Chymraeg, ac eraill yn drafodaethau a fyddai'n nodweddu astudiaethau o'r fath mewn sawl rhan o'r byd. Prif bwrpas y gyfrol yw darparu deunydd addas ar gyfer myfyrwyr sydd yn dilyn modiwlau a graddau yn y meysydd hyn drwy gyfrwng y Gymraeg, ac fe ddatblygwyd y gyfrol gan ddarlithwyr o nifer o brifysgolion Cymru. Cefnogwyd y gyfrol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a dyma un o gyhoeddiadau cyntaf y sefydliad hwnnw.Mae'r gyfrol electronig hon yn manteisio ar dechnoleg sydd yn ychwanegol at yr hyn a geir mewn cyfrol brint: mae yma hyperddolenni sydd yn arwain y darllenydd at dudalen derminoleg wrth glicio ar rai geiriau all fod yn anghyfarwydd yn y testun. Gobeithio y bydd hyn yn hwyluso'r darllen ac yn cyfrannu at ddatblygu, ehangu a sefydlogi terminoleg yn y meysydd hyn.Er nad all un gyfrol ddarparu deunydd cyflawn i gyrsiau prifysgolion mewn unrhyw bwnc, gobeithir y bydd y casgliad hwn yn cyfrannu at ddysg ac yn ysgogi rhagor o astudio, ymchwilio a chyhoeddi ym meysydd astudiaethau ffilm a'r cyfryngau drwy gyfrwng y ..
Yr Ynys (1992)
Lleolir yr Ynys yng Nghymru'r dyfodol agos. I darfu ar gymuned Gymraeg ei hiaith sy'n byw'n alltudion o'r tir mawr daw criw ffilmio teledu sy'n ymchwilio i ffordd o fyw ar yr ynys. Drama rymus gan Meic Povey, gyda J. O. Roberts, John Ogwen, Mari Rowland Hughes a Gwyn Derfel. Opus 30, 1992. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Yr Ymadawiad (2015)
Gyda'i hymdeimlad cynyddol o arswyd, mae hon yn felodrama oriog, feistrolgar gyda throad angheuol. Pan mae'r pâr ifanc ar ffo, Sara ac Iwan, yn gyrru eu car i nant ger ffermdy anghysbell, cânt eu hachub gan Stanley, dyn encilgar. Wedi ei ffilmio ger Tregaron, mae'r byd maent yn rhan ohono yn llaith ac yn lawog. Yn anochel mae'r cariadon ifanc yn torri ar draws bodolaeth unig Stanley. Ond mae'n eu helpu gyda chymysgedd stoicaidd o ewyllys dda addfwyn ac amynedd, nes bod cyfrinachau'n cael eu datgelu ac mae'r tymheredd yn codi. Severn Screen, 2015. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Yr Alwad (1988)
Athrawes ifanc sydd wedi penderfynu protestio yn gwrthdaro yn erbyn cyfraith a threfn yn feunyddiol. Pan aflonyddir arni gan fygythiadau treisiol at bwy all hi droi? Ym mhwy all hi ymddiried? Lle mae tynnu'r llinell rhwng erlid a gwarchod? Gyda Betsan Llwyd a Meic Povey. Ffilmiau Bryngwyn, 1988. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Yr Alltud (1989)
Mai 1945, ac mae'r rhyfel drosodd o'r diwedd. Mae gwraig weddw, iarlles o'r Almaen, wedi cael hyd i loches yn ogledd Cymru. Un o'i ffrindiau pennaf yw merch y gweinidog lleol - perthynas sydd yn ei atgoffa o'i phlentyndod, ond sydd hefyd yn dod yn ôl â theimladau o euogrwydd. Ffilmiau Bryngwyn, 1989. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Weithred (1995)
Drama gan Meic Povey yn seiliedig ar hanes tri Chymro - Emyr Llewelyn, Owain Williams a John Albert Jones - a ymdrechodd i rwystro cynlluniau Corfforaeth Lerpwl i foddi pentref Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn yn y Chwedegau. Opus 30, 1995. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Cadfridog (1984)
Drama gan Michael Povey. Milwr ifanc a swyddog hÅ·n wedi eu hynysu mewn byncar niwclear wedi cyflafan. Mae'r berthynas rhyngddynt yn datblygu... Cwmni Alan Clayton, 1984. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Dyn Perig (1990)
Mae'r ffrae rhwng Buddug a'i thad yn poethi, i'r fath raddau ei bod yn byw ar fferm ei hewythr, ac yn poeni am ei mam a chyflwr y tir. Mae angen gwaith caled ac arian i redeg y ddwy fferm yn effeithiol a nid gosod tir i ryw gwmni ffilm uffar! Ffilmiau Bryngwyn, 1990. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Ferch Dawel (1996)
Ffilm wedi ei haddasu o nofel Marion Eames am Helen Garmon, merch sydd wedi cael ei mabwysiadu gan deulu cefnog o Gaerdydd. Pan ddaw Heledd o hyd i'w mam iawn ym mherfeddion pellenig Sir Feirionnydd, mae hi'n canfod gwirionedd syfrdanol arall sy'n rhoi tro ysgytiol i'w bywyd. Gyda Naomi Martell, Rolant Prys, Dyfan Roberts a Betsan Llwyd. Ffilmiau Llifon, 1996. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.