Places of Wales is a website where you can search and discover the items or related information for the collections of The National Library of Wales on a geographic interface.
Places of Wales Website
Darganfod Caerdydd – Huw Thomas
Mae'r llyfr hwn yn esbonio cefndir a chyd-destyn yr etifeddiaeth hanesyddol unigryw sydd wedi cynhyrchu'r Gaerdydd sy'n bodoli heddiw. Ffocws y llyfr ydy cynllunio a datblygiadau ffisegol y ddinas, er enghraifft, y trawsnewidiad ym Mae Caerdydd. Bydd y llyfr yn ddefnyddiol fel rhan o fodiwlau ar ddaearyddiaeth trefol ac adfywiad trefol, ac hefyd ar gyfer ymweliadau astudiaethol, lle gall y myfyrwyr dilyn Taith Gerdded Bae Caerdydd.
Darlith Flynyddol 2016: Y Gymraeg, y Wenhwyseg ac Addysg yn y De-ddwyrain
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2016: Y Gymraeg, y Wenhwyseg ac Addysg Gymraeg yn y De-ddwyrain gan Dylan Foster Evans. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau ar ddydd Mawrth 2 Awst 2016.
Darlith Gethin Matthews: 'Ffaith a Ffuglen - Cyn-filwyr a'u hatgofion
Darlith gan Dr Gethin Matthews, Prifysgol Abertawe, ar y testun 'Ffaith a Ffuglen - Cyn-filwyr a'u hatgofion'. Traddodwyd y ddarlith fel rhan o gynhadledd 'Creithiau: Dylanwad y Rhyfel Mawr ar Gymdeithas a Diwylliant yng Nghymru' dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym mis Ionawr 2014.
Dechreuadau Cyfieithu Gwleidyddol yng Nghymru yn yr Oes Fodern Gynnar
Darlith gan Dr Marion Löffler, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, a gynhaliwyd ar ddydd Mercher, 22 Hydref 2014, ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Modiwl Dehongli'r Gorffennol (HCG2011)
Cyflwyniadau i gyd-fynd gyda'r modiwl prifysgol Dehongli'r Gorffennol (HCG2011). Bydd angen mewngofnodi i gael mynediad i'r cyflwyniadau isod. Rhestr y cyflwyniadau: Cyflwyniad i Hanes Marcsaidd (Yr Athro Gareth Williams) Cyfraniad Keith Thomas (Yr Athro Gareth Williams) Datblygiadau a phroblemau gyda dehongliadau Marcsaidd, a cyfraniadau Christopher Hill a Raymond Williams (Yr Athro Gareth Williams) Dehongliadau Marcsaidd o Galileo a William Harvey (Yr Athro Gareth Williams) Cymdeithas a diwylliant yng Nghymru yn y 19eg a'r 20fed Ganrif (Yr Athro Gareth Williams) Ysgrifennu Hanes Cymru (Dr John Davies) Hanes Marcsiadd (Dr Martin Wright) Ysgrifennu Hanes Cymru (Yr Athro Prys Morgan)
Dibendraw (2014 a 2015)
Mae o’n cwmpasu popeth, mae o ym mhopeth, mae’n barhaus ac yn ddiddiwedd. Beth ydy o? Wel gwyddoniaeth wrth gwrs, a dyna yw pwnc y gyfres Dibendraw. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Dilyn Ddoe: Eryr Mewn Coler Gron (1997)
Drama-ddogfen sy'n olrhain y gwrthdaro rhwng dau safbwynt gwahanol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Un o'r personau mwyaf amlwg yn yr ymgyrch recrwitio ar gyfer y fyddin Gymreig oedd y Parchedig John Williams, Brynsiencyn, ond roedd y newyddiadurwr ifanc E. Morgan Humphreys yn anniddig ynglyn a'r orfodaeth filwrol a ddaeth i rym ym 1917. Elidir, 1997. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Dilyn Ddoe: Hynt Dau Gymro – Lloyd George a William Morris (1996)
Prin iawn yw'r Cymry sydd wedi eu hethol yn Brif Weinidogion. Mae'n siwr mai David Lloyd George yw'r unig un sy'n dod i feddwl llawer ohonom. Ond ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Cymro Cymraeg arall yn Brif Weinidog, a hynny'n bell o rif 10 Stryd Downing - ym mhen draw'r byd yn Awstralia. William Morris Hughes oedd ei enw a hanes y g?r hwnnw a'i berthynas â Lloyd George fydd dan sylw yn y rhaglen hon yng nghyfres Dilyn Ddoe. Elidir, 1996. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Dim ond Heddiw (1978)
Cyfres ddrama gan Meic Povey, wedi'i lleol yng nghanol bwrlwm prysur y brifddinas. Darlithydd parchus yw Gareth Samuel. Nid yw ei wraig mor barchus. Mae ei chysylltiadau ag isfyd y dociau ac un neu ddau o fyfyrwyr ei gŵr yn ei harwain i bob math o drybini... HTV Cymru Wales, 1978. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Dinasyddiaeth Bur ac Areithiau Eraill – Henry Jones
Tair darlith a draddodwyd i chwarelwyr gogledd Cymru gan Syr Henry Jones ar droad yr ugeinfed ganrif, yn trafod hawliau'r gweithiwr a'i le mewn cymdeithas.
Dirgelwch yr Ogof (2002)
Dwy ganrif yn ôl yn ne Ceredigion: lle yn llawn tlodi a smyglwyr. Mae mab stad y Glascoed, Harri, yn dychwelyd o'i deithiau tramor i ddarganfod fod y stad mewn trafferthion ariannol a bod disgwyl iddo ef briodi merch gyfoethog leol. Ffilm yn llawn antur a rhamant wedi'i haddasu o glasur T. Llew Jones, gyda Huw Rhys, Lowri Steffan a Mali Harries. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.