Yn y rhaglen hon fe ddilynwn Dr John Davies, un o'n haneswyr pwysicaf, am chwe diwrnod. Down, trwy ei eiriau ei hun i ddeall mwy am agwedd y meddyliwr craff hwn am bethau Cymru a'r byd, yn ogystal â chael cip olwg ar wirioneddau ei galon. Telesgop, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gwirionedd y Galon: Dr John Davies (2013)
Gwlad Beirdd (2010 a 2011)
Mae Gwlad Beirdd yn rhoi sylw i rai o feirdd mawr ein cenedl. Cawn glywed rhai o'u cerddi enwocaf, ac ymweld â'r mannau a ysbrydolodd y cerddi rheiny. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gwrthwynebwyr y Rhyfel Mawr (2014)
Hanes pedwar gwrthwynebydd cydwybodol o Gymru yn ystod y Rhyfel Mawr. Gwas ffarm o Laneilian Ynys Môn oedd Percy Ogwen Jones. Mae ei hanes yn cael ei adrodd gan ei fab, Geraint Percy, yn Ysgol Penysarn. Ar ôl wynebu sawl tribiwnlys cafodd Percy ei arestio a'i ddanfon i Faracs Wrecsam ac yna i Kinmel. Mae Dr Jen Llywelyn wedi ymchwilio i fywyd yr heddychwr George M. Ll. Davies. Yn Aberdaron clywn hanes carchariad George am bregethu yn erbyn rhyfel a'r effaith andwyol a gafodd hyn ar ei iechyd. Aeth Gwenallt i guddio gyda pherthnasau iddo ger Rhydcymerau a Llandeilo i drio osgoi cael ei garcharu. Dr Christine James sydd yn sôn am y cyfnod hwn ym mywyd y bardd ym mro ei febyd: Pontardawe ac Alltwen. Gwrthododd Ithel Davies wneud unrhyw waith fyddai'n helpu'r rhyfel yn ystod ei garchariad. Yng Nghwmtudu mae aelod o'i deulu, Jon Meirion Jones, yn sôn am y driniaeth lem a ddioddefodd Ithel oherwydd ei ddaliadau. Mae'r hanesydd Aled Eirug yn siarad am y broses a wynebai'r gwrthwynebwyr cydwybodol, y tribiwnlysoedd, carcharu, cynllun y Swyddfa Gartref yn Dartmoor a chynghrair y Bluen Wen. Boom Cymru, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gŵyl MAP 2014 a 2015
Mae Gŵyl MAP yn cyfuno dosbarthiadau meistr gyda chyfle i ddangos a thrafod gwaith theatr o bob math. Trefnir yr ŵyl gan Brifysgol De Cymru o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ceir yn y casgliad yma gyfres o gyfweliadau gyda ymarferwyr theatr a fu'n arwain dosbarthiadau meistr yng Ngŵyl MAP 2014 a 2015. Cynhaliwyd Gŵyl MAP 2014 yn Aberystwyth a Gŵyl MAP 2015 yng Nghaerdydd.
Gwyn Alf Hanesydd y Bobl
Rhaglen Ddogfen ar Gwyn Alf Williams. Yr Athro Gwyn Alf Williams, un o brif haneswyr Cymru. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gwyn Thomas: Gŵr Geiriau (2016)
Gwyn Thomas, y bardd a'r awdur, sy'n holi beth sy'n gyrru pobol i fod yn greadigol, ac yn gofyn oes 'na'r fath beth ag 'awen'. Mae Gwyn yn gyn Fardd Cenedlaethol Cymru ac yn adnabyddus am addasu'r Mabinogi a gwaith Shakespeare, am gyfansoddi geiriau caneuon ac ysgrifennu sgriptiau yn ogystal ag am ei waith academaidd. Wrth edrych ar ei waith ei hun, ac ar waith artistiaid eraill, bydd Gwyn yn holi ai'r un grym sy'n ysbrydoli'r cerflunydd John Meirion Morris a'r canwr Gai Toms, yr artist Gareth Parry a'r cyfansoddwr Owain Llwyd? Trwy gyfrwng nifer o sgyrsiau difyr cawn olwg o'r newydd ar waith yr artistiaid yma, ac ar yrfa Gwyn ei hun. Cwmni Da, 2016. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Medieval History Resources
Yn y casgliad hwn ceir adnoddau sy'n cefnogi'r astudiaeth o hanes yr Oesoedd Canol. Mae'r adnoddau'n deillio o brosiect a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i greu deunyddiau dysgu cyfrwng Cymraeg safonol yn rhoi cyflwyniadau i bynciau a themâu sylfaenol yn hanes yr Oesoedd Canol.
Hedd Wyn (1992)
Barddoniaeth oedd angerdd mawr bywyd Ellis Evans, a'i uchelgais oedd ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Llwyddodd yn y man: yn Eisteddfod Birkenhead yn 1917 enillodd brif lawryf ei genedl - yn anffodus ni wyddai ddim byd am y peth. Lladdwyd ef ychydig ynghynt ar ei ddiwrnod cyntaf ar y Ffrynt Gorllewinol yn Ypres. Pendefig, 1992. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Hedd Wyn: Canrif o Gofio
100 mlynedd wedi marwolaeth Hedd Wyn, Ifor ap Glyn sy'n olrhain hanes ei fywyd. Yn 2013, gwerthodd nai Hedd Wyn, Gerald Williams, Yr Ysgwrn i Barc Cenedlaethol Eryri. Dyma lle magwyd y bardd, a chawn weld sut y cafodd y ffermdy a'r tai allan eu trawsnewid yn ganolfan i ymwelwyr fodern, i warchod etifeddiaeth Hedd Wyn i'r dyfodol. Dilynwn ôl troed y bardd i Abercynon, i ddysgu am y tri mis y treuliodd yno fel glöwr, cyn symud ymlaen i Lerpwl i ymweld â rhai o'r lleoliadau a fyddai wedi bod yn gyfarwydd iddo yn ystod ei gyfnod yno yn hyfforddi fel milwr. Yn Ffrainc a Belg, dilynwn gamau olaf y bardd, a chlywed am y modd y cwblhaodd ei awdl fuddugol i Eisteddfod Genedlaethol 1917 tra'n martshio i gyfeiriad y frwydr a fyddai'n hawlio ei fywyd. Tra bod Hedd Wyn ei hun wedi tyfu yn eicon cenedlaethol, felly hefyd y gadair a enillodd yn Eisteddfod Birkenhead - Y Gadair Ddu. Yn Sanclêr, ar ymweliad â gweithdy Hugh Hayley, y dyn sy'n gyfrifol am y gwaith adfer arni, caiff Ifor ryfeddu ar waith cerfio cywrain y Belgiad Eugeen Vanfleteren, ffoadur o'r rhyfel a ymsefydlodd yn Birkenhead ac a gomisynwyd i greu'r Gadair. Gyda chymorth rhai o lythyrau'r bardd, erthyglau papur newydd, a chyfweliadau prin a recordiwyd gyda'i ffrindiau a'i deulu yn ystod y 60au a'r 70au, mae Ifor yn ail-asesu bywyd ac etifeddiaeth y bardd. Pam fod y stori hon yn parhau i gydio yn'om ni? Beth fyddai Hedd Wyn wedi ei gyflawni petai ond wedi cael byw? Efallai bod rhain yn gwestiynau na ellir eu hateb yn llawn, ond mae un peth yn sicr, y bydd enw Hedd Wyn yn parhau i atsain ar hyd yr oesau. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Henry Richard: Yr Apostol Heddwch (2013)
Un o'r Cymry mwyaf blaengar a fu erioed: dyn a wrthwynebai ryfel ymhob ffurf a siâp ac un a oedd ymhell o flaen ei amser. Mererid Hopwood sy'n cymryd golwg ar ddylanwad parhaus Henry Richard yn ei waith dros gymod a heddwch. Tinopolis, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Her yr Hinsawdd
Mae'r Athro Siwan Davies yn gadael ei labordy ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae hi'n ymchwilio i newid hinsawdd y gorffennol pell, ac yn teithio i'r Ynys Las ac i'r Maldives i weld beth sydd yn digwydd i'r hinsawdd bresennol. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Hir Oes i'r Iaith – Robert Owen Jones
Mae iaith a chymdeithaseg yn gwbl ddibynnol ar ei gilydd. Ni all iaith fodoli heb bobl i'w siarad ac ni all unrhyw gymuned weithredu'n ystyrlon heb iaith. Yn y gyfrol hon edrychir ar y berthynas rhwng y ddwy wedd holl bwysig ar fywyd dyn gan geisio darlunio'r effaith a gaiff cyfnewidiadau cymdeithasol ar barhad a ffyniant iaith. Edrychwn ar y Gymraeg dros bedair canrif ar ddeg gan geisio dangos sut y gall digwyddiadau unigol lunio tynged iaith, a sut y gall newid mewn ymagweddiad roi anadl einioes mewn sefyllfa a oedd yn bur anobeithiol. Y Gymraeg sydd dan y chwyddwydr, ond cymherir y sefyllfa yng Nghymru â'r hyn a geir mewn gwledydd eraill. Dadleuir mai'r rhan bwysicaf ym mhroses adfer iaith yw deall pa ffactorau sy'n achosi erydiad. Yna gellir gweithredu polisi iaith a ddylai ddwyn ffrwyth, gan sicrhau 'hir oes i'r iaith'.