Addasiad o nofel adnabyddus Marian Eames. Dyma stori rhai o gymeriadau enwocaf llenyddiaeth Cymru, megis Rowland Ellis, Sgweiar Brynmawr (Ryland Teifi), a’i wraig brydferth ond hunanol, Meg (Lowri Steffan), ac yn gefndir iddynt, cyfnod cythryblus y Crynwyr yn ardal Dolgellau. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Termau Addysg Uwch
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu geiriadur ar-lein i fyfyrwyr a staff i hwyluso'r broses o astudio, addysgu ac ymchwilio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel prifysgol. Mae'r geiriadur yn cynnwys termau technegol o ystod eang o feysydd academaidd, gan gynnwys Bioleg, Cemeg, Chwaraeon, y Gyfraith, Daearyddiaeth, Hanes, Busnes, Seicoleg, Rheoli Coetiroedd, y Diwydiannau Creadigol a Mathemateg a Ffiseg. Caiff ei ehangu'n gyson i gynnwys mwy o dermau a mwy o feysydd pwnc, ac fe nodir i ba faes y mae pob term yn perthyn. Ceir diffiniadau gyda'r termau hyn, gan gynnwys weithiau diagramau, hafaliadau a lluniau i egluro'r term yn well. Yn y diffiniadau, ceir dolenni at dermau eraill cysylltiedig.
Ysgrifau Dydd Mercher – Saunders Lewis
Casgliad o adolygiadau ac ysgrifau cofiannol gan Saunders Lewis a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Y Faner rhwng 1939 ac 1945. Noda Saunders Lewis yn y cyflwyniad iddo ddewis casgliad ar thema llên a hanes y gorffennol, a dyna sy'n clymu'r ysgrifau heriol hyn.
Min Nos o Ragfyr: Llywelyn Ein Llyw Olaf (1982)
Saith can mlynedd i'r diwrnod y lladdwyd Llywelyn ein Llyw Olaf, ym Min Nos o Ragfyr, trwy gymorth gohebwyr a thechnoleg yr ugeinfed ganrif, yn ogystal ag actorion, cawn olwg ar yr hyn a arweiniodd at y diwrnod hwnnw yng Nghilmeri ar 11 Rhagfyr 1282. Mae'r ddrama dogfen yn dechrau yn Nhrefaldwyn ym 1267 lle y rhoddwyd yr hawl swyddogol am y tro cyntaf i Tywysog Cymru ei alw ei hun yn Dywysog Cymru. Gan Manon Eames ac Emyr Daniel. ITV Cymru, 1982. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Angharad Tomos (1985)
Rhaglen ddogfen yn dilyn Angharad Tomos wrth iddi weithio gyda grwpiau o blant ysgolion cynradd yn llunio straeon yn cynnwys y plant fel cymeriadau. Bydd Angharad yn trafod ei magwraeth heb deledu ac yn esbonio sut y gwnaeth ei rhieni creadigol feithrin ei hoffder o arlunio a chreu cymeriadau a straeon. Ar ôl gorffen ymarfer dysgu, cafodd gyfle i weithio gyda Chwmni Theatr Mewn Addysg: Cwmni'r Frân Wen, ar ddrama i blant, a chawn weld sut yr oedd cael gweithio gydag awdur yn brofiad difyr i'r theatr a'r actorion. HTV Cymru, 1985. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Gwyll (Cyfres 1)
Cyfres ddrama dditectif gyda Richard Harrington, Mali Harries, Alex Harries a Hannah Daniel yn y prif rannau. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Myfi, Iolo Morgannwg (1987)
Rhaglen ddrama dogfen yn olrhain hanes bywyd Iolo Morgannwg. Iolo Morgannwg, neu Edward Williams oedd un o feirdd ac ysgolheigion mwyaf Cymru. Roedd e' hefyd yn dwyllwr. Adlewyrchir ei gymeriad unigryw yn y ddrama ddogfen wreiddiol hon lle mae Dafydd Hywel yn chwarae rhan Iolo Morgannwg ac yn ail fyw rhai o ddigwyddiadau clasurol ei fywyd: llywio llong hwylio ym Mor Hafren, cael ei luchio allan o'r Llyfrgell Brydeinig yn Llundain a chael ei gloi yng Ngharchar Caerdydd. Drwy'r cyfan mae'r cyflwynydd, yr Athro Gwyn Alf Williams, yn dilyn pob symudiad o'i eiddo, ac yn y diwedd, yn yr Eglwys lle gorwedd gweddillion Iolo, maen nhw'n dod wyneb yn wyneb. Teliesyn, 1987. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ar Drywydd Dic Aberdaron (2007)
Luned Emyr a’r hanesydd celf Peter Lord sydd ar drywydd y gweithiau celf niferus a ysbrydolwyd gan un o’r ffigurau hynotaf yn hanes diwylliant Cymru - yr ieithydd chwedlonol Richard Robert Jones. Mae Peter yn credu fod Dic wedi ysbrydoli mwy o weithiau celf nag unrhyw Gymro neu Gymraes arall gydag eithriad posib David Lloyd George, ond faint o’r gweithiau hyn sydd wedi goroesi heddiw? Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ar Doriad Gwawr (2005)
Rhaglen ddogfen bwerus sy'n coffau milwyr o Gymru a Chanada a gyhuddwyd o lwfrdra ac am encilio ac a'u saethwyd i farwolaeth ar doriad gwawr. Mae'r rhaglen yn cynnwys un o'r cyfweliadau olaf a phrin gyda Harry Patch, yr olaf o'r milwyr fu'n brwydro yn ffosydd y rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n adrodd rhai o'r atgofion erchyll o'r cyfnod. Boomerang, 2005. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cofio Saunders Lewis (1985)
Gwyn Erfyl yn cyflwyno rhaglen deyrnged i Saunders Lewis. Ar 14 Gorffennaf 1984 bu darlith a chyflwyno cerfluniau i'r Amgueddfa a'r Llyfrgell Genedlaethol. Detholiad o'r noson yw'r rhaglen yma. Ceir cyfweliadau gyda Syr Alun Talfan Davies, Dewi Watcyn Powell, Dr Geraint Gruffydd, Dr Raymond Edwards, Dr Meredydd Evans, Canon Allchin, Ivor Roberts Jones, Emyr Humphreys, yr Esgob Mullins, Emrys James, Syr Alun Oldfield Davies, Maureen Rhys, John Ogwen a Dr Prys Morgan. ITV Cymru, 1985. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Doctoriaid Rhyfel (2001)
Yn ystod rhyfeloedd y bu’r datblygiadau mwyaf mewn meddygaeth. Mae'r gyfres hon yn dangos sut y datblygwyd triniaethau newydd i ddelio â dioddefwyr rhyfel. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Colli Iaith (1991)
Golwg ar gyflwr yr iaith Gaeleg yn yr Alban, ac ar yr ymgyrch i gael mwy o oriau i'r Galeg trwy gyfrwng y teledu. Dyma adroddiad Agenda ar dristwch a gobaith sy'n wynebu'r iaith Gaeleg yn Yr Alban. Agenda, 1991. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.