Arweiniodd y dirywiad mewn perthynas â materion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru (Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion [SHRN] 2023) a diwygiadau diweddar i’r cwricwlwm at gyflwyno canllawiau statudol i hybu dull ysgol gyfan i gefnogi lles emosiynol a meddyliol positif holl randdeiliaid y gymuned ysgol (Llywodraeth Cymru [LlC] 2021). Mae’r ‘Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan
ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol’ (y Fframwaith) (LlC 2021) yn canolbwyntio ar sefydlu’r gwerthoedd craidd o ‘berthyn’, ‘effeithlonrwydd’ a ‘llais’ ar draws pob agwedd ar ddarpariaeth yr ysgol er mwyn creu cymuned gymdeithasol ac emosiynol gadarnhaol. Bydd yr adolygiad integredig hwn yn archwilio llenyddiaeth sy’n canolbwyntio ar y dulliau ysgol gyfan hyn, ac yn mynd i’r afael â rhai materion sy’n hwyluso ac yn rhwystro gweithredu’r rhain yn llwyddiannus. Dengys y canfyddiadau nad yw nifer o ysgolion wedi ymrwymo’n
llawn i’r Fframwaith (LlC 2021) hyd yma, yn enwedig felly o safbwynt y dull ysgol gyfan, felly terfynir yr erthygl trwy gynnig argymhellion ar gyfer y ffordd ymlaen.
Awduron: Nanna Ryder, Charlotte Greenway, Siobhan Eleri