Wyt ti’n astudio cwrs TAR AHO (Tystysgrif Addysg i Raddedigion, Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol) ar hyn o bryd, yn siarad Cymraeg, ac yn awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg yn dy yrfa? Mae’r fideos hyn i ti!
Mae’r gyfres yn cynnwys chwe fideo gan staff sy’n addysgu’n ddwyieithog yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau, ac sydd wedi cwblhau’r TAR AHO yn ddiweddar. Mae’n gyfle i chi glywed am eu profiadau ac i gael tips ac arferion da wrth i chi gychwyn eich gyrfa yn y sector.