Ychwanegwyd: 18/07/2023 Dyddiad cyhoeddi: 2023 21 Cymraeg Yn Unig

Amrywio ffonolegol (ai) yn y sillaf olaf ddiacen yng Nghymraeg Caerdydd

Disgrifiad

Yn yr erthygl hon, cyflwynir dadansoddiad meintiol o amrywio ffonolegol (ai) yn y sillaf olaf ddiacen mewn perthynas â’r orgraffynnau, ac yng Nghymraeg Caerdydd. O ganlyniad i ddiffyg ymchwil ar Gymraeg Caerdydd, nid yw’n glir pa ffurf neu ffurfiau sy’n gyffredin ar gyfer (ai) yng Nghaerdydd erbyn hyn, a bydd yr erthygl hon yn cyflwyno darlun cyfredol o’r nodwedd hon trwy archwilio effaith cyffyrddiad tafodieithol a safoni ar Gymraeg Caerdydd. Ceir hefyd ddadansoddiad o ystod o ffactorau ieithyddol a chymdeithasol sy’n effeithio ar amrywio (ai) yn y sillaf olaf ddiacen yng Nghymraeg Caerdydd. Mae’r erthygl hefyd yn ystyried goblygiadau ffurfio tafodiaith newydd yng nghyd-destun adfywio ieithyddol.

Awdur: Ianto Gruffydd

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Ieithoedd, Ieithyddiaeth
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân lun Gwerddon 35

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.