Ychwanegwyd: 18/10/2023 Dyddiad cyhoeddi: 2024 113 Cymraeg Yn Unig

Paradocs wrth bortreadu Patagonia yn y Gymru ddatganoledig: Archwiliad cychwynnol o Separado! (Gruff Rhys a Dylan Goch 2010)

Disgrifiad

Mae’r erthygl hon yn archwilio elfennau o’r portread o’r Wladfa a gyflwynir yn Separado! (2010), sef rhaglen ddogfen arbrofol o ran arddull gan Gruff Rhys a Dylan Goch. Saif y portread dan sylw yng nghyd-destun ystod o weithiau ffeithiol a ffuglennol am y Wladfa o safbwynt Cymru a gynhyrchwyd ers y 1940au. Trwy gyfrwng cysyniadau a ddeillia o theori lenyddol (Linda Hutcheon), cymdeithaseg diwylliant (Pierre Bourdieu), theori wleidyddol (Ernesto Laclau), theori llenyddiaeth taith (Graham Huggan a Patrick Holland; Peter Hulme), a theori ôl-drefedigaethol (Mary Louise Pratt), bydd yn bosib olrhain yn y rhaglen ddogfen dueddiadau a fodolai eisoes mewn portreadau eraill yng Nghymru, sef troi at Batagonia mewn cyfnodau heriol yn wleidyddol er mwyn datrys pryderon am Gymreictod yn ogystal ag am orffennol a dyfodol y wlad.

Awdur: Sara Borda Green

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Hanes, Ieithyddiaeth
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
Mân lun Gwerddon 36

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.