Ychwanegwyd: 03/03/2023 Dyddiad cyhoeddi: 2023 3.1K Cymraeg Yn Unig

Ar-lên 2023: Sesiynau Adolygu UG/Safon Uwch

Disgrifiad

Mae'r gweminarau adolygu byw hyn yn cael eu trefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 sy'n astudio Cymraeg Iaith Gyntaf UG/Safon Uwch. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal gan ddarlithwyr o adrannau Cymraeg prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd, a llenorion ac academyddion blaenllaw eraill, gyda'r bwriad o gyfoethogi eich dealltwriaeth o rai o'r testunau llenyddiaeth yr ydych yn eu hastudio yn y dosbarth. 

Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn Gymraeg drwy Zoom rhwng 4.30-5.30pm ar brynhawniau Mercher, gyda'r sesiwn gyntaf ar bnawn Mercher 1 Mawrth 2023.

Amserlen:

  • 1 Mawrth 2023: Dan Gadarn Goncrit (Mihangel Morgan), Dr Miriam Elin Jones, Prifysgol Abertawe (Bl.13)
  • 8 Mawrth 2023: Mis Mai a Mis Tachwedd (Dafydd ap Gwilym), Iestyn Tyne (Bl.13)
  • 15 Mawrth 2023: Blasu (Manon Steffan Ros), Dr Manon Wynn Davies (Bl.13)
  • 23 Mawrth 2023: Un Nos Ola Leuad (Caradog Pritchard), Dr Siwan Rosser, Prifysgol Caerdydd (Bl.13) *Dydd Iau*
  • 29 Mawrth 2023: Y Gymraeg mewn cyd-destun, Gruffydd Rhys Davies, Prifysgol Aberystwyth (Bl.13)
  • 19 Ebrill 2023: 'Aneirin' (Iwan Llwyd), Dr Elis Dafydd, Prifysgol Bangor (Bl.12)
  • 26 Ebrill 2023: 'Preseli' (Waldo Williams), Dr Elan Grug Muse (Bl.12)
  • 3 Mai 2023: Ymarfer Papur Gramadeg, Yr Athro Peredur Lynch, Prifysgol Bangor (Bl.12)

 

Bydd y ddolen ar gyfer y digwyddiad yn cael ei hanfon atoch ar e-bost ar y diwrnod neu'r diwrnod cynt. Croeso i ddisgyblion, myfyrwyr, athrawon ac athrawon dan hyfforddiant. Ni fyddwn yn gallu eich gweld, ond bydd modd defnyddio'r botwm sgwrsio i gyfrannu neu ofyn cwestiwn.

Cofiwch ddilyn cyfrif Twitter @CymraegCCC a chyfrif Instagram @instagymraeg am fwy o wybodaeth a newyddion am y Gymraeg fel Pwnc.

I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ffurflen gofrestru isod:

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
UG/Safon Uwch
Perthyn i
Cymraeg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
Ar-lên 2023: Sesiynau Adolygu UG/Safon Uwch

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.