Ychwanegwyd: 29/03/2023 Dyddiad cyhoeddi: 2023 4.8K Cymraeg Yn Unig

Cyfres Beirdd yr Uchelwyr

Disgrifiad

Mae Cyfres Beirdd yr Uchelwyr yn cyflwyno golygiadau safonol o farddoniaeth y beirdd a ganai yng Nghymru rhwng 1282 a chanol yr unfed ganrif ar bymtheg.

Mae’r Gyfres wedi ei hanelu at unrhyw un sydd am ddysgu mwy am farddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol – myfyrwyr ac ymchwilwyr Prifysgol, a hefyd unrhyw un sydd am ddysgu mwy am hanes ein traddodiad barddol, neu am hanes ryw ardal benodol ers talwm.

Os am ddysgu mwy am un bardd yn benodol, gellid dechrau drwy ddarllen y Rhagymadrodd i’w waith, cyn troi at y cerddi eu hunain. Mae digon o gymorth mewn aralleiriadau a nodiadau i helpu gyda’r dehongli.

Cyflwynir y cerddi yn orgraff heddiw a cheir nodiadau manwl ar bob cerdd sy'n esbonio unrhyw anawsterau yn y testun a hefyd y cyfeiriadau at bobl, lleoedd a chymeriadau hanesyddol a chwedlonol. O flaen gwaith pob bardd, ceir rhagymadrodd yn trafod bywyd y bardd, ei ddyddiadau, ei noddwyr a natur ei farddoniaeth. Ar ddiwedd pob cyfrol ceir mynegeion a rhestrau llawn o’r llawysgrifau a ddefnyddiwyd yn sail i’r golygiad.

Mae'r gwaith yn ffrwyth prosiect ymchwil a gynhaliwyd yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth gan dîm o ymchwilwyr dan nawdd Prifysgol Cymru, yr AHRC ac eraill.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Hanes, Cymraeg, Addysg Grefyddol
Trwydded
CC BY-NC-SA 4.0
Casgliad
mân lun beirdd yr uchelwyr

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.