Dyma gyfrol atyniadol a chyfoes sy’n rhoi cyflwyniad hygyrch i ddisgyblaeth y Gymraeg, wedi ei golygu gan ddarlithwyr Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd; Dr Angharad Naylor, Dr Llion Pryderi Roberts a Dr Dylan Foster Evans.
Mae’r gyfrol yn cyflwyno cyfoeth, cyffro ac ehangder y Gymraeg fel disgyblaeth academaidd, a bydd yn ysgogi diddordeb a chwilfrydedd mewn meysydd cyfarwydd a newydd – megis iaith, llenyddiaeth, cymdeithaseg iaith, beirniadaeth lenyddol, diwylliant a threftadaeth, ac ysgrifennu creadigol.
Mynediad Agored Ar-lein (dolen isod)
Cynnwys:
Adran 1 Llenyddiaeth
1) Llenyddiaeth Plant: Siwan M. Rosser
2) Rhywedd: Cathryn A. Charnell-White
3) Y Ddrama Lwyfan a’i Gwreiddiau Llenyddol: Gareth Evans-Jones
4) Llên Bywyd:Llion Pryderi Roberts
Adran 2 Iaith
5) Tafodieitheg: Iwan Wyn Rees
6) Sosioieithyddiaeth: Jonathan Morris
7) Dwyieithrwydd: Enlli Thomas
8) Newid Ymddygiad Ieithyddol: Gwenno Griffith
Adran 3 Cymdeithas
9) Addysg: Alex Lovell ac Angharad Naylor
10) Yr Iaith Gymraeg a Threftadaeth: Dylan Foster Evans
11) Amlddiwylliannedd: Lisa Sheppard
12) Darllen Cyfieithiadau: Mwy na Geiriau: Rhianedd Jewell
13) Cenedligrwydd: Peredur I. Lynch
14) Y Gymraeg y tu allan i Gymru: Jerry Hunter
Ceir cwestiynau trafod ar ddiwedd pob adran.
Mae modd prynu'r gyfrol ar ffurf llyfr clawr meddal hefyd. Ar gael yma gan Wasg Prifysgol Cymru neu yn eich siop lyfrau leol.