Ar y cyd â mXreality, ac wrth weithio â thimau sy’n arbenigo yn y pwnc o Goleg Caerdydd a’r Fro, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu amgylchedd metafyd 3D trochol, hygyrch ac eang, sy’n cynnwys pum ardal yn ymwneud â gwahanol themâu. Maent yn edrych ymlaen at rannu profiadau, straeon a hanesion gyda chi. Gwahoddir chi i ymgysylltu â phrofiad dysgu trochol, a fydd yn gwella eich dealltwriaeth o’r byd. Wrth ichi archwilio’r byd hwn, gofynnir ichi ymgysylltu â’r adnoddau a myfyrio ar eu harwyddocâd. Dyma gyfle i chi ddysgu am y diwylliannau a’r traddodiadau sy’n ffurfio rhan o’n cyd-hunaniaeth.
Mae'r Metafyd yn cynnwys yr ardaloedd canlynol:
- Profiadau
- Mae’r Metafyd Profiadau wedi’i leoli ar stryd o dai pâr cynrychiadol yng Nghymru, gyda mynediad at chwe thŷ (tri ar bob ochr o’r stryd). Ym mhob un o’r tai, gallwch ddysgu mwy am gefndir a diddordebau’r unigolion sy’n byw yno drwy wylio’r fideo sy’n chwarae ar y teledu a thrwy glicio ar rai o’r eitemau rhyngweithiol (a nodwyd gan eicon tri smotyn) yn yr ystafell fyw.
- Astudiaethau Trochol
-
Mae’r Metafyd Astudiaethau Trochol yn cynnwys prif ardal lefel is a thair ardal lefel uwch. Mae gan y brif ardal amrywiaeth o eitemau o ddiddordeb geometregol oherwydd eu siapiau a’u patrymau, sy’n dangos y cysylltiad rhwng mathemateg, gwyddoniaeth a natur. Gallwch ddysgu mwy am yr eitemau hyn drwy glicio arnynt. Mae Cod QR i’w weld ar banel ger rhai eitemau hefyd, y gellir ei sganio gyda chamera eich ffôn symudol er mwyn gweld fersiwn 3D neu Realiti Estynedig (AR) o’r eitem ar eich dyfais.
Mae’r lefel uwch yn cynnwys:
- ystafell Mathemateg – yn galluogi ymwelwyr i archwilio pwysigrwydd a hanes rhifau a siapiau mathemategol a geometregol
- Ystafell Gwallt a Harddwch – yn galluogi ymwelwyr i ymgyfarwyddo â hanes a gwreiddiau gwallt a harddwch
- Ystafell Dyfeisiadau – yn addysgu ymwelwyr am rai dyfeisiadau arwyddocaol a chyfraniadau cynnar i fywyd cyfoes
-
- Llinell Amser y Byd
-
Mae Metafyd Llinell Amser y Byd yn cynnwys prif ardal ganolog a phedwar rhanbarth daearyddol, a gallwch gael mynediad at bob un ohonynt drwy dwnnel o’r ardal ganolog. Mae pob twnnel yn arddangos gwybodaeth sy’n cyflwyno cefndir, hunaniaeth a delwedd unigolyn cynrychiadol o’r rhanbarth hwnnw. Mae pob un o’r pedwar rhanbarth (y manylir arnynt isod), yn cynnwys pedwar cyfnod amser, sy’n galluogi ymwelwyr i brofi pensaernïaeth, delweddau a gwybodaeth gynrychiadol mewn perthynas â’r oes hynafol, yr oesoedd canol, y cyfnod modern cynnar, a’r byd heddiw.
Y pedwar rhanbarth sydd ar gael yn y Metafyd hwn yw:
Affrica, Is-gyfandir India, Y Dwyrain Canol a Gogledd Ewrop.Wrth ichi symud o gwmpas llinell amser y byd, yn yr ardal ganolog ac ym mhob un o’r rhanbarthau, mae eitemau rhyngweithiol y gallwch glicio arnynt yn cysylltu â fideos sy’n cyflwyno gwybodaeth ychwanegol ddefnyddiol. Mae Codau QR ar gael yn rhai o’r rhanbarthau hefyd, y gellir eu sganio gyda chamera eich ffôn symudol er mwyn gweld fersiwn 3D neu Realiti Estynedig (AR) o’r eitem ar eich dyfais.
-
-
Y Cwricwlwm
-
Mae'r adran hon yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bynciau y saeniwyd yn ofalus er mwyn sichrau y bydd eu cynllun yn wrth-hiliol. Mae'r adran yn cynnwys y pynciau canlynol:
-
Cymdeithaseg
-
Gwallt a Harddwch
-
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
-
Ffeministiaeth Ddu
-
Gwleidyddiaeth
-
Mathemateg
-
Astudiaethau Ffilm
-
Athroniaeth Affricanaidd
-
Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill
-
Addysg Sylfaenol i Oedolion
-
Anghenion Dysgu Ychwanegol
-
Sesiwn tiwtorial
-
-