Ychwanegwyd: 05/10/2022 Dyddiad cyhoeddi: 2022 4.5K Cymraeg Yn Unig

Hunaniaethau: Cymreictod

Disgrifiad

Mae ‘Hunaniaethau: Cymreictod’ yn gyfres o chwe sgwrs gyhoeddus a fydd yn archwilio'r hyn a olygir wrth ‘Gymreictod’ heddiw, a hynny o safbwyntiau amrywiol. Bydd y sesiynau yn edrych ar Gymreictod o safbwynt cyfranwyr o leiafrifoedd ethnig, o’r gymuned LHDTC+, ac o safbwynt pobl o wahanol grefyddau. Bydd y sgyrsiau yn adlewyrchu pa mor amlweddog yw ‘Cymreictod’ yn y cyfnod modern ac yn ysgogi trafodaethau newydd pwysig a pherthnasol. Gall unrhyw un ymuno ar-lein i wylio’r sgyrsiau ac i gymryd rhan yn y trafodaethau. Mae'r sesiynau i gyd yn y Gymraeg. Trefnir y digwyddiadau ar y cyd rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor.

Sesiwn #1: 13 Hydref 2022  (i gyd-fynd â Mis Hanes Pobl Ddu) 

'Mae yn fy DNA' - Natalie Jones, athrawes sy'n trafod ei gwaith a'i hunaniaeth

GWYLIWCH Y RECORDIAD

Sesiwn #2: 10 Tachwedd 2022 (18:00)

'Cymrieg (Lluosog) - Welsh (Plural)' - Sgwrs a chyflwyniadau gan gyfranwyr i lyfr, Welsh Plural – Iestyn Tyne, Grug Muse, Hanan Issa (Bardd Cenedlaethol Cymru), Darren Chetty. Bydd cyfieithu ar y pryd.

GWYLIWCH Y RECORDIAD

Sesiwn #3: 15 Rhagfyr (18:00)
Sgwrs gyda Joseph Gnagbo. Mae Joseph yn gyn-ffoadur o'r Arfordir Ifori. Yn ogystal â siarad Ffrangeg, a Saesneg, mae wedi dysgu Cymraeg ers iddo ddod i Gymru yn 2019 ac mae bellach yn dysgu Cymraeg i eraill. Yn anffodus ni fydd cyfieithu ar y pryd ar gyfer y sesiwn hon.

GWYLIWCH Y RECORDIAD

Sesiwn #4: 19 Ionawr 2023 (18:00)
Rhyng-grefyddoldeb yng Nghymru - trafodaeth gydag aelodau o gymunedau ffydd Cymru. Ceir cyfraniadau gan aelodau o wahanol gymunedau ffydd Cymru: y Mwslim, Laura Jones, sy’n gobeithio cyfieithu testunau’r Coran i’r Gymraeg; Kris Hughes sy’n Dderwydd, Yr Athro Nathan Abrams sy’n Iddew, a Sudha Bhatt o Gyngor Hindŵ Cymru. Bydd cyfieithu ar y pryd. 

Sesiwn #5: 15 Chwefror (18:00) Chwaraeon i Bawb - yr Athro Laura McAllister, darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd cyn Cadeirydd 'Chwaraeon Cymru', a chyn-bêl-droediwr fydd yn trafod chwaraeon, chwaraeon i ferched a rhywioldeb. Yn gwmni iddi fydd Lloyd Lewis, chwaraewr rygbi proffesiynol a rapiwr y gân 'Pwy sy'n Galw'. Noder bod y digwyddiad ar nos Fercher, nid y nos Iau arferol. Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael

Sesiwn #6: 20 Ebrill (18:00) Eisteddfod i Bawb? Sut mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn mynd ati i ddenu ac adlewyrchu Cymru gyfoes? Trafodaeth gydag Ashok Ahir (Cadeirydd yr Eisteddfod), Betsan Moses (Prif Weithredwr), Katie Hall (sy’n Swyddog Cymunedol ac yn aelod o’r grŵp Chroma), Elin Haf Gruffydd Jones (o Mas ar y Maes), a Joe Healy (enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2022). Trafodaeth yn y Gymraeg.

DOLEN ZOOM I YMUNO Â'R SESIWN:

https://bangor-ac-uk.zoom.us/j/96665711977?pwd=NE8rRVFJV3daMndJUUt6RGZPVVdzQT09

ID y cyfarfod: 966 6571 1977
Cyfrinair: 878559

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch, Addysg Oedolion
Perthyn i
Hanes, Ieithyddiaeth, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, Astudio drwy'r Gymraeg, Trawsddisgyblaethol, Addysg, Cymraeg
Trwydded
Parth Cyhoeddus
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
mân lun hunaniaethau cymreictod

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.