Cyfres sy'n portreadu gwrthdaro rhwng newyddiadurwyr, ymgynghorwyr a gwleidyddion sy'n aelodau o bleidiau dychmygol ym Mae Caerdydd. Yn dilyn etholiadau, clymblaid sydd mewn grym, rhwng tair plaid sef Y Ceidwadwyr Newydd, Y Cenedlaetholwyr a'r Democratiaid gyda'r Sosialwyr yn wrthblaid.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.