Ychwanegwyd: 04/05/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2018 1.6K

CAEA Ymwybyddiaeth Iaith – Gwaith Cymdeithasol

Disgrifiad

Adnodd rhyngweithiol sy'n anelu at greu’r amodau i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol fedru rhoi eu hun yn sgidiau’r defnyddiwr a theimlo a deall pam fod gwasanaeth yn Gymraeg yn ystyriaeth bwysig.

Mae’r  modiwl yn cynnwys 5 uned sy’n hoelio sylw ar:

  • Ddeall anghenion iaith;
  • Mynd dan groen y profiad dwyieithog;
  • Ystyried cyd-destun y Gymraeg – ei chyflwr cyfoes a pheth o’i hanes ac effaith hynny ar ddefnyddwyr gwasanaeth;
  • Dadansoddi’r berthynas rhwng iaith a grym, oblygiadau strategaeth Mwy na geiriau a’r  cynnig rhagweithiol, a
  • Dod yn barod i ymarfer a gweithredu’n unol â gofynion Mwy na geiriau

Yn ddelfrydol, dylai myfyrwyr weithio eu ffordd trwy'r deunyddiau o uned 1 i 5 wrth i drafodaeth a dysgu adeiladu fesul tipyn o'r naill i'r llall. Fodd bynnag, mae'r unedau hefyd yn hunangynhwysol i raddau helaeth, a gellir defnyddio unedau, neu rannau o uned, ar y cyd â modiwlau neu ddeunyddiau dysgu eraill.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Gwaith Cymdeithasol
Trwydded
CC BY-SA
Adnodd Coleg Cymraeg Cwrs/Uned
man lun CAEA gwaith cymdeithasol

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.