Cyfres o bodlediadau lle mae darlithwyr o Brifysgol Bangor a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd yn dod at ei gilydd i drafod materion cyfoes o fewn y byd iechyd sy'n effeithio ar bob un ohonon ni. Mae podlediad 'Am Iechyd' yn cynnig platfform proffesiynol i weithwyr rheng flaen ac academyddion i drafod yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn trafod nifer o bynciau megis: Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Modelau Genediaeth Byw Efo Dementia Beth yw ystyr gofalu? Y berthynas rhwng iechyd a gofal Bronfwydo Pa effaith gaiff sefydlu Ysgol Feddygol ym Mhrifysgol Banor ar iechyd pobl gogledd Cymru?
Gwefan Meddwl.org
Sefydlwyd gwefan meddwl.org fis Tachwedd 2016, a chaiff ei redeg gan grŵp bach o wirfoddolwyr, er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i helpu pobol sy’n byw gyda chyflwr iechyd meddwl, a’u teuluoedd a’u ffrindiau. Dyma’r wefan gyntaf o’i math sy’n cynnwys gwybodaeth ar faterion iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Mae gan bawb iechyd meddwl. Mae meddwl.org yn lle i gael cefnogaeth a gwybodaeth, ac i ddarllen a rhannu profiadau iechyd meddwl – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am Filiwn: Podlediad
Podlediad sy’n trin a thrafod agweddau ar fyd addysg sy’n datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg yng nghyd-destun anelu at filiwn o siaradwyr. Bydd y podlediad yn apelio at unrhyw un sy’n dilyn cwrs hyfforddi athrawon, yn athro newydd gymhwyso, neu’n aelod o’r gweithlu addysg. Bydd o ddiddordeb hefyd i unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am rôl byd addysg wrth anelu at gyrraedd miliwn o siaradwyr. Mae'n adnodd arbennig o dda i gydfynd â'r Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg.
Am Blant - podlediad
Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl ifanc Podlediad #1: Beth yw Plentyndod? Yn y podlediad cyntaf hwn mae Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Rowena Hughes Jones a Ceryl Davies yn trafod beth ydy ystyr plentyndod, beth mae'n olygu i fod yn blentyn yng Nghymru heddiw ac a ydy cymdeithas yn gwrando ar lais y plentyn. Podlediad #2: Beth yw ieuenctid? Yn y bennod yma Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Owain Gethin Davies, a Ceryl Davies yn trafod beth yw ieuenctid? Sut beth ydy bod yn berson ifanc yng Nghymru heddiw? Podlediad #3: Beth sydd ei angen ar blentyn...? Beth sydd ei angen ar blentyn er mwyn tyfu, datblygu a ffynnu? Yn y podlediad hwn mae Ian Keith Jones (Pennaeth Ysgol San Sior, Llandudno) yn ymuno efo Dr Nia Young, Dr Siwan Roberts, Dr Margiad William a Rowena Hughes Jones o Ysgol Gwyddorau Addysg, Prifysgol Bangor i drafod beth sydd ei angen ar blentyn i ddatblygu a ffynnu. Pa mor bwysig ydy modelau rol, cysondeb a sefydlogrwydd? Beth ydy bod yn riant da? Podlediad #4: Hawliau Plant Yn y podlediad yma mae Rowena Hughes Jones, Dr Ceryl Davies, Gwenan Prysor, Arwyn Roberts a Chomisiynydd Plant Cymru, Yr Athro Sally Holland, yn ymuno efo Rhian Tomos i drafod hawliau plant a phobol ifanc. Ydy plant yn gwybod pa hawliau sydd ganddyn nhw? A oes angen ychwanegu at yr hawliau yng ngoleuni Cofid 19? Podlediad #5: Llais Rhieni A ydy agweddau cymdeithas wedi newid tuag at blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu neu anableddau corfforol a sut mae'r cyfnod Cofid wedi effeithio arnyn nhw? Ydan ni'n gwrando digon ar y rhieni a'r gofalwyr? I gael gwybod mwy gwrandewch ar Elin Llwyd Morgan (mam Joel sydd ag awtistiaeth), Siôn Meredith, tad Huw (sydd a Syndrom Down), Dr Nia Young (darlithydd ym Mhrifysgol Bangor), Bethan Morris Jones, (Pennaeth Ysgol Pendalar, Caernarfon) a Lora Glynwen Williams, Swyddog Ansawdd, Gwasanaeth ADYaCH Gwynedd a Môn. Podlediad #6: Beth ydy chwarae? Beth ydy chwarae? Pa bryd rydan ni'n rhoi'r gorau i chwarae? Beth ydy pwrpas chwarae? Gwrandewch ar y 6ed podlediad yn y gyfres o bodlediadau AM BLANT i glywed y drafodaeth gan aelodau'r panel a sylwadau pobl ifanc am eu profiadau nhw o chwarae. Podlediad #7: Sut mae cerddoriaeth, celf a drama yn cyfrannu at ddatblygiad plentyn? Podlediad wedi recordio’n fyw ar faes Eisteddfod Tregaron gyda Dr Gwenllian Lansdown Davies, Cerys Edwards, Elen ap Robert, Dr Mair Edwards a Dr Nia Young.
Pod Jomec Cymraeg
Mae Pod Jomec Cymraeg yn gyfres o bodlediadau gan fyfyrwyr Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd. Yn y gyfres mae myfyrwyr yn siarad gydag enwau adnabyddus o'r byd newyddiadurol a chyfathrebu. Mae'r pods yn addas ar gyfer myfyrwyr ac i bobl sydd gyda diddordeb cyffredinol yn y maes. Yn y gyfres, fe fydd myfyrwyr a thîm dysgu JOMEC yn edrych ar bob agwedd o newyddiaduraeth a chyfathrebu yng Nghymru. Ym mhob podlediad bydd un o’n myfyrwyr yn sgwrsio gyda rhywun sy’n gweithio yn y maes - o gyngor gyrfa i holi barn am bynciau llosg y dydd.