Mae Pod Jomec Cymraeg yn gyfres o bodlediadau gan fyfyrwyr Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd. Yn y gyfres mae myfyrwyr yn siarad gydag enwau adnabyddus o'r byd newyddiadurol a chyfathrebu. Mae'r pods yn addas ar gyfer myfyrwyr ac i bobl sydd gyda diddordeb cyffredinol yn y maes.
Yn y gyfres, fe fydd myfyrwyr a thîm dysgu JOMEC yn edrych ar bob agwedd o newyddiaduraeth a chyfathrebu yng Nghymru. Ym mhob podlediad bydd un o’n myfyrwyr yn sgwrsio gyda rhywun sy’n gweithio yn y maes - o gyngor gyrfa i holi barn am bynciau llosg y dydd.