Ni fu erlid gwrachod yng Nghymru. Nifer syfrdanol fychan o ‘wrachod’ a gafodd eu canfod yn euog a’u crogi yng Nghymru. Dim ond pump, o’i gymharu â mwy na 200,000 o fenywod a’u crogwyd neu eu llosgi yng ngorllewin Ewrop ar ôl cael eu cyhuddo o ‘witchcraft’ rhwng 1484 a 1750. Mae sawl ‘coel gwrach’ neu ofergoel am wrachod lle mae’r profiad Cymreig yn cael ei gyfuno ar gam neu ei ddrysu gan lên a hanes Saesneg neu Brydeinig.
Ymgais yw prosiect Coel Gwrach i sicrhau fod Gwen, Rhydderch, Lowri, Agnes a Margaret yn cael eu lle mewn hanes drwy gyfrwng y Gymraeg, eu hiaith hwythau yn hytrach nag iaith y llys, ond hefyd bod eu straeon yn cael ail-gyfle i’w clywed mewn cymdeithas.