Rhaglen deyrnged i'r awdur a'r bardd toreithiog a fu farw'n ddiweddar, gan gynnwys cyfweliad arbennig gyda T. Llew Jones o 2002. Myrddin ap Dafydd gafodd y fraint o'i holi mewn cyfweliad estynedig a oedd yn ymdrin a nifer o agweddau o'i fywyd a'i waith, ac mi fydd hefyd yn un o'r rhai a fydd yn dadansoddi cyfraniad T. Llew Jones i lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif. Byddwn hefyd yn dysgu mwy am yr addasiadau ffilm a theledu o'i waith a'i ddylanwad ar blant Cymru heddiw. Cwmni Da, 2009.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.