Dolen i gwrs byr 10 awr ar wefan OpenLearn Cymru gan y Brifysgol Agored.
Gall dod i wybod sut rydych yn dysgu eich helpu i ddatblygu technegau astudio sy'n gweddu i'ch anghenion a'r dasg dan sylw. Bydd gwella eich strategaethau astudio yn arbed amser i chi, yn ysgafnhau eich baich gwaith ac yn helpu i wella ansawdd eich gwaith. Byddwch yn dysgu technegau ac yn datblygu sgiliau a fydd yn eich helpu gyda'ch astudiaethau.