Mae'r Banc Brawddegau yn adnodd ar gyfer unrhyw un sy'n ysgrifennu yn academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n cynnig enghreifftiau o frawddegau y gallwch eu defnyddio wrth ysgrifennu, wedi'u trefnu yn ôl prif adrannau traethawd neu bapur academaidd. Datblygwyd gan yr Athro Enlli Thomas a Bethan Wyn Jones, Prifysgol Bangor, ar sail Academic Phrasebank (https://www.phrasebank.manchester.ac.uk).
Sgiliau astudio - Gwaith Ysgrifenedig
Casgliad o glipiau fideo i helpu myfyrwyr i weithio'n effeithiol ac i gyflwyno gwaith ysgrifenedig da.
Termau Addysg Uwch
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu geiriadur ar-lein i fyfyrwyr a staff i hwyluso'r broses o astudio, addysgu ac ymchwilio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel prifysgol. Mae'r geiriadur yn cynnwys termau technegol o ystod eang o feysydd academaidd, gan gynnwys Bioleg, Cemeg, Chwaraeon, y Gyfraith, Daearyddiaeth, Hanes, Busnes, Seicoleg, Rheoli Coetiroedd, y Diwydiannau Creadigol a Mathemateg a Ffiseg. Caiff ei ehangu'n gyson i gynnwys mwy o dermau a mwy o feysydd pwnc, ac fe nodir i ba faes y mae pob term yn perthyn. Ceir diffiniadau gyda'r termau hyn, gan gynnwys weithiau diagramau, hafaliadau a lluniau i egluro'r term yn well. Yn y diffiniadau, ceir dolenni at dermau eraill cysylltiedig.
Cwrs byr: Datblygu strategaethau astudio effeithiol
Dolen i gwrs byr 10 awr ar wefan OpenLearn Cymru gan y Brifysgol Agored. Gall dod i wybod sut rydych yn dysgu eich helpu i ddatblygu technegau astudio sy'n gweddu i'ch anghenion a'r dasg dan sylw. Bydd gwella eich strategaethau astudio yn arbed amser i chi, yn ysgafnhau eich baich gwaith ac yn helpu i wella ansawdd eich gwaith. Byddwch yn dysgu technegau ac yn datblygu sgiliau a fydd yn eich helpu gyda'ch astudiaethau.
Cwrs byr: Paratoi aseiniadau
Dolen i gwrs byr 10 awr ar wefan OpenLearn Cymru gan y Brifysgol Agored. Efallai y byddwch yn teimlo ar goll pan gewch eich aseiniad cyntaf ond peidiwch â phoeni, nid oes disgwyl i chi wneud gwaith perffaith o'r cychwyn cyntaf. Nid oes un ffordd gywir o ysgrifennu aseiniad. Fodd bynnag, mae rhai egwyddorion a phrosesau cyffredin a fydd yn eich helpu i gadw ar y trywydd cywir wrth ei lunio. Byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu eich aseiniadau’n effeithiol.
Cwrs byr: Darllen a Gwneud Nodiadau
Dolen i gwrs byr 10 awr ar wefan OpenLearn Cymru gan y Brifysgol Agored. Mae darllen, gwrando a meddwl fel rhan o'ch astudiaeth yn aml yn mynd law yn llaw â gwneud nodiadau o ryw fath. Fe welwch fod sawl ffordd wahanol o ddarllen a sawl ffordd wahanol o wneud nodyn o rywbeth. Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y byddwch yn darllen yn fwy neu'n llai am rywbeth, neu efallai y byddwch yn canolbwyntio ar un adran benodol o lyfr. Efallai y byddwch yn gwneud nodiadau helaeth, yn nodi ond rhai geiriau yn unig, yn gwneud diagramau neu efallai na fyddwch yn gwneud nodiadau o gwbl. Byddwch yn cael arweiniad ar ba dechnegau i'w defnyddio a phryd i'w defnyddio.
Cyfaill Celfyddyd
Mae Cyfaill Celfyddyd yn cynnig gwybodaeth i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr coleg a phrifysgol am fyd proffesiynol y celfyddydau yng Nghymru a’r posibiliadau o astudio pellach ar ôl gadael yr ysgol. Yn ogystal â hynny, mae’r adnodd yn dangos posibiliadau proffesiynol trwy gynnig cipolwg ar arbenigwyr ar draws ystod eang o feysydd gwaith ym myd creadigol Cymru.