Dolen i gwrs byr 10 awr ar wefan OpenLearn Cymru gan y Brifysgol Agored.
Mae darllen, gwrando a meddwl fel rhan o'ch astudiaeth yn aml yn mynd law yn llaw â gwneud nodiadau o ryw fath. Fe welwch fod sawl ffordd wahanol o ddarllen a sawl ffordd wahanol o wneud nodyn o rywbeth. Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y byddwch yn darllen yn fwy neu'n llai am rywbeth, neu efallai y byddwch yn canolbwyntio ar un adran benodol o lyfr. Efallai y byddwch yn gwneud nodiadau helaeth, yn nodi ond rhai geiriau yn unig, yn gwneud diagramau neu efallai na fyddwch yn gwneud nodiadau o gwbl. Byddwch yn cael arweiniad ar ba dechnegau i'w defnyddio a phryd i'w defnyddio.