Mewn rhaglen ddogfen onest, yr hanesydd Hywel Williams fydd yn herio'r syniad bod Cymru'n genedl 'gymunedol'. Aiff Hywel ati yn ei ffordd ddihafal ei hun i ddryllio'r ddelwedd yma o Gymru fel gwlad 'gymunedol': cymuned glos, saff a mewnblyg. Ond o ble daw'r syniad yma yn y lle cyntaf ac ai ystrydeb yw'r cyfan? Drwy ddefnydd crefftus o archif, sgript, cerddoriaeth a barddoniaeth, bydd Hywel yn cyflwyno dadl ddeallusol a gweledol fydd yn codi cwestiynau ac yn tanio trafodaeth. Awen.tv, 2014.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.