Cynhadledd Antur (Cynhaliwyd 18/02/2022)
Bwriad y gynhadledd undydd “Antur” yw cau'r bwlch rhwng y diwydiant a myfyrwyr gyda’r ffocws ar gynnwys o faes campau awyr agored. Wedi ei gynnal yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin ac wedi ei lunio ar y cyd rhwng prifysgolion y Drindod Dewi Sant, Aberystwyth, Bangor ac Abertawe bydd myfyrwyr ffilm a chyrsiau awyr agored yn mynychu’r gynhadledd yn Yr Egin ac arlein.
Mae tri siaradwr gwadd anhygoel am rannu o’u profiadau helaeth gan ysbrydoli’r myfyrwyr.
Y tri siaradwr gwadd yw :
- Lowri Morgan - Y darlledwr, anturiaethwr ac awdur sydd wedi ennill BAFTA a chydnabyddiaeth ryngwladol
- Rhodri ap Dyfrig - Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C gyda chyfrifoldeb golygyddol a strategol am Hansh
- Llion Iwan - Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Da, sydd hefyd wedi treulio deng mlynedd gyda’r BBC, yn gynhyrchydd a cyfarwyddwr dogfennau ar gyfer BBC 1, 2, 4 a BBC Cymru.